Dr Feihu Zhao

Dr Feihu Zhao

Darlithydd ZCCE (IMPACT), Biomedical Engineering

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A_202
Ail lawr
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Feihu Zhao yn Ddarlithydd Peirianneg Fiofeddygol yng Nghanolfan Peirianneg Gyfrifiadol Zienkiewicz (ZCCE), y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu Feihu yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Biomecaneg Orthopedig, yn Adran Peirianneg Fiofeddygol Prifysgol Technoleg Eindhoven yn yr Iseldiroedd. Yn ystod ei gyfnod ôl-ddoethurol, bu gan Feihu swydd Ymwelydd Academydd hefyd yn Sefydliad INSIGNEO ar gyfer Meddygaeth in silico, Prifysgol Sheffield, o fis Ebrill 2017 tan fis Gorffennaf 2017. Derbyniodd Feihu ei radd PhD mewn Peirianneg Fiofeddygol gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, Iwerddon yn 2016, a gradd MSc (Tech.) mewn Awtomatiaeth Peiriannau gan Brifysgol Technoleg Tampere, y Ffindir yn 2012.

Mae ymchwil Feihu yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio dulliau in silico i egluro ac optimeiddio amgylchedd micro-fecanyddol celloedd ar gyfer peirianneg esgyrn a meinweoedd cartilag. Mae ei ymchwil hefyd yn cynnwys defnyddio cyfuniad o dechnegau cyfrifiadol ac arbrofol (e.e. microsgopeg grym atomig, micro-hylifeg) i ymchwilio i fiomecaneg a mecanofioleg celloedd. Mae ei ymchwil wedi darparu gwybodaeth bwysig ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes cynhyrchion peirianneg meinweoedd (e.e. sgaffaldau bioddeunyddiau, bioadweithyddion a sglodion meinwe) ar gyfer aildyfu esgyrn a chartilag.

Meysydd Arbenigedd

  • Peirianneg meinweoedd in silico
  • Biomecaneg gellog a mecanofioleg
  • Dylunio dyfeisiau biofeddygol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

EGA163 – Dosbarthiadau Dylunio a Labordy 1/EG236 – Dylunio ar gyfer Peirianneg Feddygol

 EG262 – Dadansoddi Diriant

EGA308 – Technoleg Mewnblaniadau a Phrosthetigau