Trosolwg
Astudiodd Emrys Evans Gemeg ym Mhrifysgol Rhydychen (Gradd Meistr mewn Cemeg 2012; Doethuriaeth mewn Athroniaeth yn 2016, wedi’u goruchwylio gan yr Athro Christiane Timmel). Roedd prosiect ei Ddoethuriaeth ar ffiseg ffoto a throelli parau radical wedi’u hanwytho â golau sy’n rhan o dderbyniadfagnetydd ar gyfer llywio anifeiliaid. Yn dilyn hyn, gweithiodd gyda’r Athro Syr Richard Friend yn Labordy Cavendish, Prifysgol Caergrawnt, fel Cymrawd Ymchwil (2016-2019) a Chymrawd Gyrfa Cynnar Lelverhulme (2019-2029). Yng Nghaergrawnt, cynhaliodd waith ymchwil ar led-ddargludyddion organig a deunyddiau radical ar gyfer optoelectroneg mewn cydweithrediad â’r Athro Feng Li, Prifysgol Jilin. Yn 2020, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol iddo i arwain gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ar ‘Ynni radical a rheolaeth droelli mewn electroneg organig.’