Dr Emilia Urbanek

Dr Emilia Urbanek

Uwch-ddarlithydd, Geography

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602559

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 246
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n wyddonydd pridd sydd â diddordeb yn rôl priddoedd o ran lliniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y berthynas rhwng argaeledd dŵr a deinameg carbon pridd, yn enwedig pan fydd pridd yn newid i fod yn ddŵr-wrthyrrol yn sgil tân neu gyfnodau sych estynedig.

Rwy'n dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol. Graddiais o Brifysgol Technoleg Lublin, Gwlad Pwyl (BSc, MSc, 2002), fe wnes i gwblhau fy astudiaethau doethuriaeth ym Mhrifysgol Kiel, yr Almaen (PhD, 2006) a dechreuais fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe (2006).

Croesawaf ohebiaeth yn Saesneg, Almaeneg a Phwyleg.

Dolen i'r fideo amdanaf fy hun https://www.youtube.com/watch?v=1t9YA_-rikc#action=share

Meysydd Arbenigedd

  • Nodweddion dŵr-wrthyrrol pridd
  • Allyriadau CO2 o bridd
  • Priddoedd yr effeithiwyd arnynt gan dân
  • Rheoli pridd er mwyn lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd