Professor David Worsley

Yr Athro David Worsley

Cadair Bersonol, Materials Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
001

Swyddfa Weithredol
Campws y Bae

Trosolwg

Yn ystod ei yrfa academaidd, mae'r Athro Dave Worsley wedi creu portffolio gwerth miliynau o bunnoedd o brosiectau consortiwm cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd deunyddiau uwch, ynni solar ac ymchwil i ddatblygu technolegau a deunyddiau arloesol i fwydo i mewn i'r gadwyn gyflenwi fyd-eang. Hyd yma mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu mwy na £120m o fuddsoddiad mewn hyfforddiant cydweithredol, ymchwil ac arloesi.

Mae gan Dave weledigaeth i newid y byd! Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd - gyda diwydiant adeiladu'r DU yn gyfrifol am 60% o'r holl ddeunyddiau a ddefnyddir ac adeiladau’n gyfrifol am hyd at 40% o'n hallyriadau carbon - mae Dave yn canolbwyntio ar ddad-garboneiddio'r gadwyn gyflenwi deunyddiau ac ar ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau a thrafnidiaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Haenau a ddefnyddir ar gyfer diogelu rhag cyrydu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Celloedd solar perofsgit wedi'u prosesu drwy hydoddiant
  • Ffotofoltäigau wedi’u hintegreiddio mewn adeiladau
  • Cymwysiadau a datblygiad haenau
  • Gwyddoniaeth a pheirianneg cyrydu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Gyda'i gefndir ymchwil mewn deunyddiau ar gyfer ynni solar a haenau ymarferol, arloesodd Dave y cysyniad o 'Adeiladau Gweithredol': adeiladau sy'n gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain drwy ddefnyddio technolegau ynni adnewyddadwy integredig. Yn 2011 arweiniodd y gwaith o greu Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC (IKC), consortiwm o fwy na 50 o bartneriaid o ddiwydiant, y byd academaidd a'r llywodraeth i ddatblygu'r cysyniad hwn.Mae SPECIFIC yn arbenigo mewn cynyddu technoleg newydd o'r labordy i adeiladau ar raddfa lawn ac mae'n cydweithio'n helaeth i gefnogi masnacheiddio technolegau a systemau adnewyddadwy newydd yn gynnar. Mae gan y Ganolfan gydweithrediadau academaidd strategol gyda sefydliadau fel Coleg Imperial Llundain, Prifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Birmingham, Warwick a Sheffield ynghyd â sefydliadau rhyngwladol yn India, Mecsico, Kazakhstan ac UDA.

Mae profi bod y cysyniad yn gweithio ar raddfa lawn yn rhan allweddol o waith SPECIFIC ac ethos Dave. Mae adeiladau'r Ystafell Ddosbarth Weithredol a'r Swyddfa Weithredol ar Gampws y Bae ill dau wedi ennill nifer o wobrau gan y diwydiant. Yn 2017, ychwanegwyd SUNRISE a ariannwyd gan GCRF at y Portffolio – gan fynd â'r cysyniad o Adeiladau Gweithredol dramor i gymunedau gwledig India.

Gyda'r 'darlun ehangach' mewn golwg, mae wedi argymell gosod mecanweithiau gwefru trydan yn nyluniad yr Adeilad Gweithredol. Dros y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn cymudo o Orllewin Cymru, ardal sy’n agos at ei galon, gan ddefnyddio ynni solar, gan deithio dros 36,000 o filltiroedd wedi'u pweru gan yr haul gan leihau ei ôl troed carbon yn aruthrol.

Er mwyn bodloni agenda dur yr 21ain ganrif ac fel Athro wedi’i Noddi gan Tata Steel, arweiniodd Dave y gwaith o greu'r Sefydliad Duroedd a Metelau (SaMI) ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017; ychwanegodd GANOLFAN Gweithgynhyrchu'r Dyfodol EPSRC SUSTAIN yn 2019. Mae'r naill brosiect a’r llall yn cefnogi prif gynhyrchwyr dur y DU i drawsnewid diwydiant a thrwy hynny gyflawni targedau datgarboneiddio 2050 Diwydiant Dur y DU.