Parc Singleton
Chedza Simon

Dr Chedza Simon

Darlithydd yn y Cyfryngau, Media

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Chedza Simon yn ddarlithydd cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ogystal â'i rôl addysgu, mae Chezda yn Arweinydd Ymgysylltu â Myfyrwyr ar gyfer yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Mae hefyd yn gyfarwyddwr rhaglen ar gyfer ein MA mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus (CMPPR) yn ogystal â bod yn Swyddog Arholiadau Ôl-raddedig. Ymunodd â'r adran ym mis Ionawr 2023 ar ôl iddo gwblhau ei PhD mewn astudiaethau'r cyfryngau'n llwyddiannus, a fu'n ymchwilio i gyfathrebu mewn argyfwng sefydliad yn y de byd-eang a rôl y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Chezda yn cynnig cyfoeth o brofiad o fyd diwydiant i faes addysg uwch. Cyn dechrau ar ei astudiaethau PhD, bu'n gweithio fel Ysgrifennydd Preifat i Weinidog yn Llywodraeth Gweriniaeth Botswana. Mae hefyd wedi mwynhau gyrfa ddisglair ym maes y cyfryngau a chyfathrebu dros 15 mlynedd. Bu'n gweithio i bapur newydd poblogaidd mwyaf Botswana,  The Voice, fel newyddiadurwr, Golygydd Busnes, Is-olygydd a Golygydd Newyddion. Wedi hynny, byddai'n cael ei wahodd i arwain adran y newyddion yng ngorsaf deledu gyntaf Botswana i fod dan feddiant preifat, eBotswana - sy'n is-gwmni sianel newyddion eNCA De Affrica, fel Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes. Yn dilyn hynny, gweithiodd i Goleg Livingstone Kolobeng ym Motswana lle'r oedd ganddo rôl ddeublyg o swyddog cysylltiadau cyhoeddus ac athro ysgol uwchradd.

Mae Chezda'n ddeiliad Ysgoloriaeth Chevening Llywodraeth y DU fawr ei braint (ar gyfer astudiaethau Gradd Meistr) ac Ysgoloriaeth PhD y Gymanwlad. Cwblhaodd Feistr y Celfyddydau mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn llwyddiannus yn 2015/16 yma ym Mhrifysgol Abertawe. 

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli cyfathrebu mewn argyfwng
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Y cyfryngau a diwylliant
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Brandio
  • Cyfathrebu strategol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Chedza yn dysgu modiwl i ddosbarthiadau ôl-raddedig ar gysylltiadau cyhoeddus, brandio a hyrwyddo. Mae hefyd yn addysgu modiwlau israddedig ar gyfathrebu strategol yn ogystal â goruchwylio traethodau hir ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae ei ddiddordebau addysgu eraill yn cynnwys meysydd fel cysylltiadau cyhoeddus a yrrir gan ddata a chyfathrebu mewn argyfwng byd-eang a chyfryngau cymdeithasol.

Ymchwil