Dr Chiara Bertelli

Dr Chiara Bertelli

Swyddog Ymchwil, Biosciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
036
Llawr Gwaelod
Adeilad Wallace
Campws Singleton

Trosolwg

Biolegydd morol yw Chiara Bertelli. Mae ganddi hi fwy na 10 mlynedd o brofiad o gynnal arolygon ecolegol arfordirol a morol gan gynnwys arolygon o’r cwch a rhai sgwba. Ymhlith ei diddordebau y mae ecoleg morwellt, adnabod bywyd dyfnforol a physgod, monitro teulu’r morfilod yn acwstig, BRUV a chadwraeth forol, monitro a rheoli gan gyfeirio’n benodol at sector ynni adnewyddadwy morol. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio PhD yn rhan-amser sy’n edrych ar y rhesymau amgylcheddol sy’n achosi newidiadau mewn dolydd morwellt. Mae hi hefyd yn gweithio ar brosiect adfer morwellt gan Sky Ocean Rescue mewn partneriaeth â WWF. Mae ei phrofiad gwaith hefyd yn cynnwys arolwg o rîff cwrel yn Ffiji ac addysgu cyrsiau mewn bioleg forol yn y maes yn y Caribî.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg morwellt
  • Arolygon o fywyd dyfnforol a physgod
  • Tacsonomeg o anifeiliaid di-asgwrn-cefn dyfnforol
  • Ecoleg traethau caregog
  • Arolygon o famaliaid morol
  • Monitro acwstig goddefol
  • Dadansoddi data gan ddefnyddio R a Primer

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Chiara yn canolbwyntio ar waith cymhwysol ac mae’r rhan fwyaf ohono’n seiliedig ar waith maes, gan gynorthwyo ar gyrsiau maes bioleg forol: BIO260 Cwrs Maes Bioleg Forol; BIO327 Cwrs Maes Bioleg Forol Drofannol a BIO346 Sgiliau Proffesiynol mewn Bioleg Forol.

Ymchwil