Trosolwg
Pynciau Arbenigol: Micro weithgynhyrchu, peiriannu rhyddhau micro drydanol, prosesu polymer, integreiddio graddfa hyd, gweithgynhyrchu main, dylunio prosesau, actifadu arwynebau, bioddynwared.
Mae fy mhrif ffocws ymchwil ym maes Technoleg Micro a Nano (MNT).
Ffocws fy astudiaethau PhD yn y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu, Prifysgol Caerdydd oedd Micro Weithgynhyrchu. Yn benodol, peiriannu rhyddhau micro drydanol i'w gymhwyso wrth gynhyrchu offer mowld micro-chwistrellu a gweithgynhyrchu micro gydrannau.
Rwyf wedi ymgymryd ag ymchwil MNT o dan raglenni ariannu FP6, FP7, EPSRC, TSB, WEFO ac A4B yr UE. Mae fy ngweithgaredd ymchwil wedi'i gyplysu ag 8 mlynedd o brofiad diwydiannol yn y sectorau modurol a dyfeisiau meddygol a diagnostig.
O ganlyniad, mae gennyf gefndir technegol ac ymarferol cryf o fewn meysydd dylunio/gweithgynhyrchu offer mowldio chwistrellu, actifadu arwynebau a gweithgynhyrchu main.
Yn ogystal, rwy'n Beiriannydd Siartredig (FIMechE) ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.