Dr Ally Evans

Swyddog Ymchwil, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987178

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd

Trosolwg

Mae Ally yn ecolegydd morol sydd â 15 mlynedd o brofiad ar draws sectorau gwahanol ym maes gwyddor môr. Ar ôl iddi weithio i gyrff anllywodraethol yn y trofannau a chyrff llywodraethol yn y DU, penderfynodd hi mai drwy ymchwil y gallai hi gael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar yr amgylchedd morol. Ymgymerodd hi â PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2016 ac mae hi wedi gweithio mewn swyddi ôl-ddoethurol mewn sefydliadau amrywiol ers hynny. Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar wella ac adfer yr amgylchedd morol. Yn flaenorol, roedd hi'n arwain prosiect adfer Morwellt: Achub Cefnfor Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Abertawe gyda Phrosiect Morwellt, ac mae hi nawr yn ymuno â phrosiect ReSOW i ddeall sut y gellir defnyddio ffactorau cymdeithasol a llywodraethu i gefnogi adfer morwellt.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg y Môr
  • Gwella'r cynefin morol
  • Adfer morol
  • Rhyngwyneb rhwng polisi ac ymarfer morol