Yr Athro Aubrey Truman

Athro Emeritws (Gwyddoniaeth), Science and Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295459

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Ces i fy hyfforddi i fod yn ffisegydd mathemategol ym Mhrifysgol Rhydychen, lle gwnes i gwblhau fy PhD mewn damcaniaeth maes cwantwm a lle roeddwn yn ysgolhaig agored mewn Mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol. Cyn dod i Abertawe ym 1982, bues i'n gweithio am 13 o flynyddoedd ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin. Yna gwnes i beth o’m gwaith pwysicaf ar integrynnau llinell Feynman a damcaniaeth maes cwantwm, a arweiniodd at fy ethol yn FRSE ym 1980. Des i i Abertawe i gael fy addysgu am brosesau stocastig gan David William FRS. Mae'r rhain wedi bod yn ddiddordeb parhaus i mi.


Rwyf wedi bod yn Athro Gwadd ym mhrifysgolion Princeton, Rhufain (La Sapienza), CNRS Marseilles a Phrifysgol Gyhoeddus Moscow ac roeddwn i'n un o'r academyddion cyntaf i ennill Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roeddwn i’n bennaeth adran yn Abertawe am fwy nag 20 mlynedd – rhai o’m dyddiau hapusaf. Ar ôl bod yn brif drefnydd y nawfed ICMP (Cynhadledd Ryngwladol ar Ffiseg Fathemategol) yn Abertawe ym 1988, ces i fy ethol yn Ysgrifennydd Cymdeithas Ryngwladol Ffiseg Fathemategol (IAMP) am bum mlynedd. Ces i fy mhenodi'n Athro Emeritws yn Abertawe yn 2010.


Rwyf wedi cyhoeddi mwy na chant o bapurau ar fecaneg glasurol a chwantwm, damcaniaeth maes cwantwm, prosesau tryledu stocastig a mecaneg stocastig. Mae'r mwyafrif o'r rhain yn bapurau ar y cyd sydd wedi deillio o gydweithredu – un o brif bleserau gwaith ymchwil. Gyda chymorth cyn-fyfyrwyr, rwyf wrthi'n gweithio ar faes newydd cyffrous sy'n berthnasol i seryddiaeth a mecaneg wybrennol, lle mae gan brosesau stocastig gymwysiadau pwysig. Fy enw i am y maes newydd yw Mecaneg Led-glasurol – hanner ffordd rhwng y damcaniaethau clasurol a chwantwm. Mae'n ddigon posib mai hwn fydd fy ngwaith pwysicaf hyd yn hyn.


Fy niddordebau arhosol yw: fy nheulu annwyl, rygbi Cymru, wisgi brag, fy nghi bach Sally, ffiseg fathemategol a mathemateg ffisegol.