Dr Anna Pigott

Darlithydd, Geography

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 209
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Rwy'n ddarlithydd Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi bod yn gymrawd yr Academi Addysg Uwch ers 2023. Ar hyn o bryd, rwy'n arwain y thema ymchwil 'Newid ein Hunain a'n Prifysgol' ar gyfer Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd Prifysgol Abertawe.

Mae gen i wybodaeth eang fel gwyddonydd amgylcheddol ac yn fwy diweddar, fel daearyddwr dynol. Yn ystod fy PhD a'm gwaith ôl-ddoethurol, gwnes arbenigo yn y croestoriadau rhwng yr argyfwng hinsawdd/ecolegol, creadigrwydd a straeon (gyda diddordeb penodol mewn creadigrwydd 'pob dydd'), gan helpu i ddatblygu fframweithiau newydd a phethau dychmygol ar gyfer ymateb i'r argyfyngau hyn mewn ffyrdd mwy cyfiawn a gofalus. Yn ddiweddar, gwnes gyd-olygu'r llyfr ‘Art and Creativity in an Era of Ecocide’ (Bloomsbury 2023). Mae llinyn canolog fy ngwaith yn ymwneud â dod â theimladrwydd, gofal a chreadigrwydd ecolegol i'r ystafell ddosbarth, a chyfrannu at y cwestiwn ehangach o sut dylai a gallai prifysgolion drawsnewid i fod yn arweinwyr wrth feithrin deallusrwydd emosiynol ac ymarferol ar gyfer yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

Y tu hwnt i'm hymrwymiadau addysgu ac ymchwil, rwy'n cyfrannu'n rheolaidd at y cyfryngau cyhoeddus ar yr argyfwng hinsawdd, actifiaeth ac addysg ac rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar ar gyfer Times Higher Education, The Conversation, Open Democracy ac Environmental Politics.

Meysydd Arbenigedd

  • Newid yn yr amgylchedd/hinsawdd a chymdeithas
  • Cyfiawnder amgylcheddol
  • Damcaniaeth gymdeithasol
  • Daearyddiaeth ddiwylliannol
  • Straeon a naratifau
  • Y Dyniaethau Amgylcheddol
  • Celf amgylcheddol a chreadigrwydd
  • Addysg uwch a'r argyfwng hinsawdd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae fy mhrif gyfrifoldebau addysgu wedi'u rhannu ar hyn o bryd rhwng cydlynu modiwl traethawd hir y drydedd flwyddyn (GEG331/2) a modiwl yr ail flwyddyn ar Ddaearyddiaeth Gweithredu ar yr Hinsawdd ac Actifiaeth (GEG273). Rwyf hefyd yn cyfrannu at fodiwlau'r radd Meistr ar Wyddor Hinsawdd a Pholisi, Dulliau Ymchwil Ansoddol a Newid yn yr Hinsawdd: Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol. Rwy'n diwtor i fyfyrwyr israddedig yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn ac rwy'n goruchwylio un myfyriwr PhD.

Cefais gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn 2023 ac rwy'n ymwneud â materion gwladychiaeth, hiliaeth, cyfiawnder amgylcheddol a phryder ecolegol fel rhan o'm gwaith addysgu.

Rwyf hefyd wedi rhoi darlithoedd gwadd i fyfyrwyr israddedig a gradd meistr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Choleg Atlantic ym Maine, UDA.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau