Dr Anil Bastola

Darlithydd, Mechanical Engineering

Cyfeiriad ebost

308
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Peiriannydd mecanyddol a gwyddonydd deunyddiau yw Dr Bastola sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu ychwanegion (AM)/Argraffu 3D. Mae ei ymchwil blaengar yn canolbwyntio ar ddatblygu atebion arloesol ar gyfer roboteg feddal, synwyryddion/cychwynwyr, cynaeafu ynni ac atebion deallus ar gyfer acwsteg a dirgryniadau. Drwy ddatblygu systemau deunyddiau goddefol ac actif amrywiol (y rhai hynny sy'n ymateb i ysgogiadau allanol) megis deunyddiau ymatebol i feysydd magnetig a siâp-cof, mae Dr Bastola'n gweithio at greu atebion arloesol i amryw o heriau amgylcheddol.

Mae Dr Bastola wedi ennill profiad gwerthfawr wrth weithio mewn sefydliadau nodedig, gan gynnwys ei PhD yng Nghanolfan Argraffu 3D Singapore (SC3DP), Prifysgol Dechnolegol Nanyang (Singapore), ymchwil ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Polymerau Actif, Helmholtz-Zentrum Hereon (Yr Almaen), a'r Ganolfan nodedig ar gyfer Gweithgynhyrchu Ychwanegion (CfAM), Prifysgol Nottingham (y DU). Mae wedi bod yn gweithio ym maes systemau metaddeunyddiau aml-swyddogaeth ac aml-ddefnydd a'u Gweithgynhyrchu Ychwanegion. Mae ei waith ymchwil wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion o fri gan gynnwys Advanced Materials.

Mae diddordeb gan Dr Bastola mewn ymchwil sylfaenol a throsiadol.

Meysydd Arbenigedd

  • Gweithgynhyrchu Ychwanegion
  • Polymerau a Chyfansoddion Polymer
  • Deunyddiau a Strwythurau Clyfar
  • Deunyddiau sy'n ysgogi ymateb (Magnetig/Maes Electrig, Gwres a Lleithder)
  • Fformiwleiddio inc ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion
  • Rheoleg a fisgo-elastigedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn meithrin twf darpar fyfyrwyr. Rwy'n cael fy nenu at gyrsiau sy'n cyd-fynd â'm harbenigedd ymchwil megis Gweithgynhyrchu Ychwanegion, Gweithgynhyrchu Ychwanegion/Argraffu 3D, polymerau a chyfansoddion polymer, profi a nodweddu deunyddiau, rheoleg a fisgo-elastigedd. Ar hyn o bryd, rwy'n addysgu modiwl EG-M36 ym Mhrifysgol Abertawe.

Ymchwil Prif Wobrau