Mr Adam Francis

Tiwtor,

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - C_215
Ail lawr
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Tiwtor Addysgu ac Ymchwilydd PhD yw Adam Francis yn adran Peirianneg Electronig a Thrydanol (EEE) Prifysgol Abertawe. Mae diddordebau ymchwil Adam yn cynnwys roboteg ac awtomeiddio, gan gynnwys dylunio ac adeiladu platfformau robotiaid symudol ar gyfer cymwysiadau monitro amgylcheddol. Mae ei brosiect PhD yn canolbwyntio ar ddatblygu robotiaid sy'n gallu canfod gollyngiadau nwy a monitro llygredd mewn amser go iawn mewn amgylcheddau diwydiannol awyr agored. Mae Adam wedi cyfrannu at addysgu ystod eang o fodiwlau ar draws y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, gan gynnwys modiwlau EEE craidd megis EG-150 Signalau a Systemau ac EG-241 Peiriannau Trydanol Mae wedi cael rôl actif hefyd wrth ddylunio a chyflwyno EGA366 Cinemateg a Rhaglennu ar gyfer Robotiaid, modiwl sy'n cyflwyno modelu mathau gwahanol o robotiaid symudol a'u strategaethau cynllunio llwybrau.

Meysydd Arbenigedd

  • Roboteg ac Awtomeiddio
  • Dysgu Peirianyddol ac Optimeiddio
  • Dylunio Cylchedau a'u Dadansoddi
  • Dylunio Peiriannau ac Argraffu 3D
  • Rhaglennu a System Gweithredu Robotiaid (ROS)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Adam wedi cyfrannu at addysgu ac asesu'r modiwlau canlynol:

  • EG-150 Signalau a Systemau
  • EG-151 Micro-reolyddion
  • EG-152 Dylunio Analog
  • EGP200 Sesiwn Ymarferol Fecanyddol Blwyddyn 2
  • EG-219 Dulliau Ystadegol mewn Peirianneg
  • EGA223 Labordy Cylchedau Electronig
  • EG-240 Cylchedau Electronig
  • EG-241 Peiriannau Trydanol
  • EG-252 Ymarfer Dylunio Grŵp
  • EGA366 Cinemateg a Rhaglennu ar gyfer Robotiaid