Alex Wharton photo

Awdur a pherfformiwr barddoniaeth ar gyfer oedolion a phlant yw Alex Wharton, ac mae wedi ennill sawl gwobr. Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022, Gwobrau Llyfrau The North Somerset Teacher, Gwobrau Llyfrau Laugh Out Loud Book Awards ac fe'i henwyd yn llyfr a argymhellir Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Mae ei lyfrau wedi'u cyhoeddi'n eang yn y sector ac mae wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol  Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Llenyddiaeth Prydain, Llyfrgelloedd Cymru a nifer o ysgolion, ymddiriedolaethau a gwyliau gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. 

Yn 2021 comisiynodd Gŵyl y Gelli Alex i greu cerdd gyda phlant a fyddai'n cael ei darllen i'w Huchelder Brenhinol y Frenhines Gydweddog mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Gelli Gandryll. Bydd ail gasgliad Alex o gerddi, Red Sky At Night: A Poet's Delight yn cael ei gyhoeddi gan Gwasg Firefly yn 2024.

Dewiswyd Alex yn Fardd Plant Cymru 2023-2025

Alex Wharton - Daydreams and Jellybeans

'Daydreams and Jellybeans' gan Alex Wharton

O’r ‘Star Control’ arallfydol i ddoniolwch ‘Hector The Horrible Hedgehog’. Mae cerddi i bawb yn Daydreams and Jellybeans. Perffaith ar gyfer chwerthin yn dawel (neu’n uchel) i chi’ch hun, i’w perfformio i’ch ffrindiau a’ch teulu, neu i sbarduno’ch creadigrwydd eich hun.
Yn goron ar y cyfan mae darluniau ysbrydoledig gan Katy Riddell.