Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Université de Genève yn Genefa, 2ail ddinas fwyaf poblog y Swistir. Mae gan Genefa hinsawdd gefnforol sy'n cael ei chymedroli rhywfaint gan Lyn Genefa. Mae'r gaeafau yn Genefa yn fwyn o gymharu â rhannau eraill o'r wlad ond yn damp ac yn lawog, ac mae'r hafau'n gynnes. Mae Genefa yn ddinas Ffrangeg ei hiaith yn swyddogol, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth yn siarad Ffrangeg, gyda Saesneg yn ail agos. Bydd myfyrwyr sy'n astudio Ffrangeg fel rhan o'u gradd yn cael blaenoriaeth i astudio yma fel myfyrwyr cyfnewid dros fyfyrwyr nad ydynt yn meddu ar ddigon o sgiliau Ffrangeg. Fodd bynnag, caiff rhai meysydd pwnc eu haddysgu yn Saesneg. Mae costau byw yn Genefa yn uwch felly bydd angen i chi gofio hyn wrth gyllidebu ar gyfer eich cyfnod fel myfyriwr cyfnewid. Prin iawn yw'r opsiynau llety yn Genefa felly, os ydych yn bwriadu treulio cyfnod yna fel myfyriwr cyfnewid, bydd angen i chi fod yn drefnus a dechrau chwilio am lety cyn gynted â phosibl.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.