Mae HKU wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei chyflawniadau fel prifysgol gynhwysfawr a arweinir gan ymchwil. Mae HKU yn denu'r myfyrwyr lleol gorau, ynghyd â myfyrwyr o Tsieina a rhai rhyngwladol. Mae gan academyddion y Brifysgol gyflawniadau rhagorol mewn addysgu ac ymchwil, ac mae tua hanner cyfadran HKU yn dod o dramor. Mae HKU wedi bod wrthi'n sefydlu cysylltiadau rhyngwladol strategol gyda phrifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y byd. Mae'r Brifysgol hefyd yn ymrwymedig i feithrin rhyngwladoli ar y campws a chefnogi prosiectau symudedd staff a myfyrwyr a rhaglenni rhyngwladol ar bob lefel.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.