Gwasanaethau Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe
Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe (SUTC) yn wasanaeth trawsgrifio ymroddedig sy’n darparu adnoddau dysgu hygyrch i fyfyrwyr ag anabledd print.
Mae ein tîm o Gydlynwyr Trawsgrifio yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Anableddau ac adrannau academaidd i ddarparu'r fformatau hygyrch canlynol ar eich cyfer:
- testun electronig (MS Word, PDF chwiliadwy)
- print bras
- braille
- sain
- diagramau cyffyrddol
Rydym yn darparu trawsgrifiadau o lawlyfrau modiwl, cyflwyniadau PowerPoint, taflenni, erthyglau cyfnodolion, detholiadau a llyfrau cyfan mewn fformatiau electronig, print bras, braille a ffeiliau PDF hygyrch. Gallwn hefyd gynhyrchu diagramau cyffyrddol.
Rydym yn cysylltu â RNIB Bookshare a chyhoeddwyr ar ran myfyrwyr i dderbyn ffeiliau PDF o lyfrau. Gellir trosi'r ffeiliau ymhellach i gopïau MS Word neu brint bras.
Pan fo llwyth gwaith yn caniatáu, mae'r Ganolfan yn darparu trawsgrifiadau print o recordiadau sain e.e. cyfweliadau a recordiwyd a phodlediadau sain i fyfyrwyr sydd â nam ar eu clyw.
Gallwn eich cefnogi os ydych wedi eich cyfeirio atom ni gan y Gwasanaeth Anableddau.