Gan y Cynghorydd Ysgrifennu i Gymheiriaid, Hayley Morgan. Mae Hayley yn rhannu ei phrofiadau o ddefnyddio memynnau yn yr ystafell ddosbarth.
Does dim modd ei wadu – mae memynnau’n ganolog i’r diwylliant digidol heddiw. Maen nhw ym mhob man - ffrydiau'r cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau grŵp a hyd yn oed cyflwyniadau academaidd. Ond y tu hwnt i'r rhai doniol a'r rhannu feirol, mae potensial cudd gan femynnau: gallan nhw fod yn offer pwerus ar gyfer addysgu myfyrio beirniadol i fyfyrwyr prifysgol.
Fodd bynnag, dwi wedi dysgu un peth o addysgu myfyrio a dadansoddi beirniadol i fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen hyd at lefel Meistr, sef bod lle i 'addysg-adloniant' o hyd – ond mae defnyddio memynnau feirol i gyfleu cysyniadau bachog a allai ychwanegu dyfnder at ysgrifennu yn teimlo'n ormod o gimig, ond yw hi?
Ond peidiwch â rhuthro i farn. Efallai fod gan lun rhyfeddol o'r oesoedd canol rywbeth i'w ddysgu i ni. Oherwydd y memyn dan sylw yw'r un enwog: y baban ‘Y tho’:
Gall hyn deimlo'n undonog i fyfyrwyr weithiau
Wrth addysgu myfyrwyr sut i ymchwilio'n ddyfnach i gael lefelau mwy cyfoethog o ddadansoddi a myfyrio beirniadol, gall hyn deimlo'n undonog i fyfyrwyr weithiau (a barnu yn ôl yr ochneidio a'r rholio llygaid diamynedd ar adegau). Fodd bynnag, gall y memyn cofiadwy hwn roi ysbaid ddigrif i'r ymennydd blinedig. Dwi wedi argraffu'r memynnau hyn a'u dosbarthu i fyfyrwyr gynifer o weithiau nes i mi gael sticer o'r memyn gan grŵp o fyfyrwyr fel anrheg diwedd modiwl ac mae bellach yn syllu arnaf o fy ffôn symudol.
Dyma enghraifft o sut y defnyddiais i hyn:
Hayley: Gadewch i'r memyn hwn fyw yn eich ymennydd. Bob tro rydych chi'n ysgrifennu brawddeg sy'n cynnwys sylw neu fanylyn ar ei ben ei hun, meddyliwch am y baban ‘Y tho’. Er enghraifft, os yw eich myfyrdod beirniadol yn dilyn trywydd fel: "Mae'n anodd i mi ofyn am help yn fy astudiaethau', gofynnwch i chi'ch hun 'Pam felly?' Efallai'r ateb yw 'achos yn yr ysgol roedd hi'n anodd i mi ofyn am help'. "Pam felly?" "Achos roeddwn i'n teimlo'n wahanol oherwydd niwrowahaniaeth heb ddiagnosis a doeddwn i ddim eisiau sefyll allan nac ymddangos yn anghenus. "Pam felly?" "Oherwydd canfyddiadau diwylliannol o wahaniaeth ac anabledd.”
Rhoi fersiwn i'r ymennydd o fwydyn clust
Ar gyfer dadansoddi beirniadol, gallai'r memyn arwain at y canlynol:
"Mae mwy o oedolion gwrywaidd ag awtistiaeth". "Pam felly?" "Oherwydd dulliau asesu a diagnostig sydd â rhagfarn ar sail rhyw". "Pam felly?" "Oherwydd pethau fel y ddamcaniaeth ymennydd gwrywaidd a masgio benywaidd...ac ati ac ati.
Os ydych chi’n gadael i'r paentiad olew hwn o ddyn bach sleifio dros eich astudiaethau, dwi wir yn credu y bydd yn rhoi fersiwn i'r ymennydd o fwydyn clust a fydd yn rhoi dyfnder i'ch ysgrifennu. Dyma sut gall integreiddio memynnau yn eich astudiaethau wneud gwahaniaeth.
Apêl Memynnau
Mae memynnau'n gofiadwy, yn afaelgar, yn annifyr ac yn ddoniol. Maen nhw'n cyfleu syniadau cymhleth mewn fformat gweledol syml, gan eu gwneud yn hawdd eu hamgyffred a'u rhannu. Oherwydd yr hygyrchedd hwn, mae memynnau'n gyfrwng delfrydol ar gyfer cysylltu â myfyrwyr sydd eisoes wedi ymdrochi yn niwylliant memynnau. Felly, drwy fanteisio ar y cynefindra hwn, gallwn greu profiad dysgu mwy gafaelgar ac ystyrlon.
Memynnau fel Offeryn Myfyrio
Mae myfyrio beirniadol yn golygu dadansoddi a herio eich credoau, eich profiadau a'ch dealltwriaeth eich hun. Gall memynnau, â'u gallu annatod i grynhoi syniadau cymhleth yn dameidiau o gynnwys, ysgogi'r broses hon. Dyma sut:
- Trosiadau Gweledol: Mae memynnau'n defnyddio trosiadau gweledol yn aml i gyfleu ystyron dyfnach. Drwy ddadansoddi'r trosiadau hyn, gall myfyrwyr archwilio cysyniadau sylfaenol a herio eu safbwyntiau eu hunain.
- Hiwmor a Dychan: Mae llawer o femynnau'n dibynnu ar hiwmor a dychan i wneud pwynt. Gall dadansoddi'r elfennau digrif helpu myfyrwyr i ddeall agweddau cynnil ar sylwebaeth gymdeithasol a datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol.
- Sylwebaeth Gymdeithasol: Mae memynnau yn aml yn sylwi ar normau, tueddiadau a materion cymdeithasol. Mae myfyrio ar y sylwebaethau cymdeithasol hyn yn annog myfyrwyr i archwilio digwyddiadau cyfoes a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r byd o'u hamgylch ac arwyddocâd y rhain iddyn nhw fel dysgwyr.
Ffyrdd ymarferol o ddefnyddio'r rhain yn yr ystafell ddosbarth
Does dim rhaid i ddefnyddio memynnau mewn amgylcheddau academaidd fod yn dalcen caled. Dyma rai ffyrdd ymarferol o ddefnyddio memynnau i addysgu myfyrio beirniadol:
- Dadansoddi Memynnau: Gofynnwch i'r myfyrwyr ddadansoddi memynnau poblogaidd sy'n berthnasol i themâu'r cwrs. Anogwch nhw i ddadansoddi'r elfennau gweledol, y negeseuon isorweddol a'r goblygiadau cymdeithasol.
- Creu Memynnau i Dorri'r Iâ: Gofynnwch i'r myfyrwyr greu eu memynnau eu hunain i fynegi eu dealltwriaeth o gysyniadau cymhleth. Yn ogystal â hwyluso creadigrwydd, mae'r ymarfer hwn yn gofyn i fyfyrwyr grynhoi eu gwybodaeth mewn fformat cryno.
- Ysgogi Trafodaeth: Defnyddiwch femynnau i dorri'r iâ neu i ddechrau trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth. Gall memyn wedi'i ddewis yn dda ysgogi trafodaethau bywiog ac annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am y maes pwnc.
- Portffolios Digidol: Anogwch y myfyrwyr i greu portffolios digidol o femynnau sy'n adlewyrchu eu taith ddigidol. Gall y prosiect parhaus fod yn offeryn myfyriol, gan alluogi myfyrwyr i olrhain eu twf a'u dealltwriaeth dros amser.
Casgliad
Mae memynnau yn fwy na thueddiadau byrhoedlog ar y rhyngrwyd; maen nhw'n offer pwerus ar gyfer meithrin sgiliau myfyrio a dadansoddi beirniadol ymhlith myfyrwyr prifysgol. Drwy fanteisio ar natur gofiadwy a gafaelgar memynnau, gallwn greu amgylchedd dysgu dynamig a rhyngweithiol. Felly, gadewch i ni groesawu diwylliant memynnau a datgloi ei botensial i hwyluso addysg ddyfnach a mwy ystyrlon.
Mwynhewch addysgu a boed i'r memynnau fod er eich lles o hyd!