Gan Katherine Watson, un o'n Cynghorwyr Ysgrifennu i Gymheiriaid.
Gan fod Word a rhaglenni ysgrifennu eraill yn cynnwys gwiriwr sillafu, gall fod yn demtasiwn i beidio â golygu â llaw. Ond camgymeriad fyddai hyn! Gall yr offer digidol hyn golli gwallau sillafu, atalnodi a gramadeg ac yn ogystal â hyn, gall golygu â llaw wella eich aseiniad yn sylweddol mewn llawer o ffyrdd eraill. Mae'r postiad blog hwn yn disgrifio 10 ffordd y gallwch wirio eich gwaith i ennill gradd uwch:
1. Ydy'ch cyflwyniad yn paratoi'r darllenydd yn ddigonol?
Mae cyflwyniadau'n hynod bwysig ar gyfer amlinellu cynnwys, strwythur a dadl eich traethawd. Dylai cyflwyniad da ddarparu trosolwg byr o gefndir eich trafodaeth, amlinellu trefn eich trafodaeth ac unrhyw themâu allweddol, a nodi mewn termau syml, yr union ddadl rydych chi'n bwriadu ei gwneud. Peidiwch â gadael llawer yn annisgwyl - dylai'r darllenydd wybod yn union i ba gyfeiriad mae eich dadl yn arwain.
2. Oes brawddeg bwnc ym mhob un o'ch paragraffau sy'n crynhoi'r cynnwys?
Gall brawddegau pwnc sydd wedi'u llunio'n ddal wella llif ac eglurder eich ysgrifennu'n sylweddol. Yn hytrach na chyflwyno eich data, cyfeiriad neu astudiaeth achos heb unrhyw esboniad, defnyddiwch y frawddeg gyntaf honno mewn paragraff i gyflwyno'r prif bwynt. Gallwch hefyd greu cyswllt â'r paragraff blaenorol, neu gyferbyniad iddo drwy agor y paragraff â chysylltair cydlynu, er enghraifft: 'Fodd bynnag...' 'Am y rheswm hwn...' neu 'Yn ogystal â...'.
3. Ydy eich paragraffau wedi'u datblygu'n ddigonol?
Dylai paragraff sydd wedi'i ddatblygu'n dda gynnwys un, os nad dau neu dri math o dystiolaeth i ategu eich pwynt. Gall hyn olygu cyfeirio at lenyddiaeth neu dynnu ar ddata ystadegol neu astudiaeth achos. Yn ogystal, dylech chi ychwanegu eich gwerthusiad eich hun o'r dystiolaeth a ddarparwyd. Er enghraifft, a oes unrhyw wendidau? Os felly, beth yw'r rhain? Sut mae'n cymharu â chyd-destunau/enghreifftiau tebyg?
4. Ydy'r dilyniant o un adran i'r nesaf yn glir?
Mae’n debygol y bydd prif gorff eich traethawd yn cynnwys sawl adran. Os nad yw, bydd angen i chi fod yn fwy eglur ynghylch natur eich dadl a sut gallech ei rhannu'n ddarnau neu'n themâu byrrach. Gall is-benawdau fod yn ffordd wych o dynnu sylw'r darllenydd at ddilyniant rhwng adrannau, ond gellir cyflawni'r un effaith drwy ddefnyddio brawddegau pwnc clir a chyfeirio yn y testun. Er enghraifft, 'Wedi trafod pwnc X, bydd yr adran nesaf yn canolbwyntio ar Y...'
5. Ydy eich brawddegau'n glir ac yn hawdd eu darllen?
Byddwch yn ofalus i osgoi brawddegau trwsgl. Mae hyd eich brawddegau'n ddewis o ran arddull yn rhannol. Fodd bynnag, os ydych chi'n ansicr, neu os yw adborth blaenorol wedi dweud wrthych chi am gryfhau eich dadl neu am ysgrifennu'n fwy eglur, mae'n gwneud synnwyr rhannu brawddegau yn ddarnau byrrach, hawdd eu deall. Ceisiwch gyfyngu brawddegau i un neu ddau o bwyntiau yn hytrach na thri neu bedwar, oll wedi'u cysylltu â'r geiriau 'a' neu 'felly'.
6. Ydych chi wedi egluro eich prif bwyntiau drwy gydol y gwaith?
Ffordd hawdd o wella eich ysgrifennu yw dychwelyd i'ch prif ddadl yn rheolaidd drwy gydol y traethawd. Ar ôl i chi grynhoi eich dadl mewn brawddeg neu ddwy yn y cyflwyniad, cyfeiriwch ati'n gyson drwy gydol eich traethawd. Un ffordd o ailadrodd eich dadl a'i chysylltu â thrafodaeth ddiweddarach yw amlygu sut mae cynnwys is-adran yn cyfrannu at y ddadl neu'n cynnig gwrthbwynt i'r brif ddadl. Dyma ffordd wych o gadw eich naratif yn gyson, gwneud eich dadl yn fwy pwerus ac atgoffa'r darllenydd am eich bwriadau.
7. Ydych chi wedi osgoi llên-ladrad?
Os ydych chi wedi copïo rhywbeth yn uniongyrchol o destun neu'r rhyngrwyd, mae'n rhaid i chi naill ei roi mewn dyfynodau NEU ei aralleirio. Yn y ddau achos, mae'n rhaid i chi gynnwys y cyfeiriad perthnasol hefyd. Aralleirio yw ailysgrifennu rhywbeth mewn geiriau eraill ond gan fynegi'r un ystyr.
8. Ydych chi wedi defnyddio iaith briodol?
Mae disgwrs academaidd yn wahanol i ffyrdd arferol o siarad. Dylech osgoi cyfyngiadau, er enghraifft, wrth ysgrifennu yn Saesneg peidiwch ag ysgrifennu its's, didn't neu can't ond ysgrifennwch y geiriau yn llawn (it is, did not, cannot). Ar ben hyn, byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio rhagenwau personol megis 'Rwyf i' a 'fy'. Er bod eithriadau, megis mewn ysgrifennu myfyriol, nid yw defnyddio rhagenwau personol yn dderbyniol mewn llawer o ddisgyblaethau academaidd, a gall wanhau eich dadl. Er enghraifft, gallai'r frawddeg 'Rwy'n credu mai cymeriad cynhennus oedd Winston Churchill', gael ei newid i 'Roedd Winston Churchill yn gymeriad cynhennus...' neu 'Mae sawl hanesydd, gan gynnwys [rhowch yr enw] wedi dadlau mai cymeriad cynhennus oedd Winston Churchill...' Os oes angen arweiniad arnoch chi ar gywair ac arddull, rhowch gipolwg ar y llyfrau neu'r erthyglau ar eich rhestr ddarllen.
9. Ydy eich casgliad yn tynnu'r prif bwyntiau a wnaed drwy gydol?
Dylai eich casgliad o leiaf gyfeirio at bob un o'ch prif bwyntiau. Fodd bynnag, mae hefyd yn gyfle gwych i drafod pob un o'ch is-adrannau yn eu cyfanrwydd, myfyrio ar y cysylltiadau rhwng eich canfyddiadau, a chynnig rhai blaenoriaethau neu gyfeiriadau ar gyfer y pwnc hwn yn y dyfodol. Peidiwch byth â chynnwys data neu gyfeiriadau newydd yn y casgliad.
10. Ydy eich rhestr o gyfeiriadau'n gyflawn, arddull ac yn nhrefn yr wyddor?
Dylai fod rhestr ar y diwedd o'r holl destunau, wefannau neu ffynonellau eraill y cyfeiriwyd atynt yn eich traethawd. Peidiwch â chynnwys popeth rydych chi wedi'i ddarllen, dim ond y cyfeiriadau a ddyfynnwyd gennych. Fel arfer, dylech chi restru'r cyfeiriadau yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw'r awdur cyntaf. I gael arweiniad ar ba system gyfeirnodi i'w defnyddio ar gyfer eich pwnc a sut olwg sydd arni, darllenwch yr wybodaeth a ddarparwyd gan lyfrgell y brifysgol neu gofynnwch i'ch llyfrgellydd pwnc.