Awdur: Jesse Blackburn
Weithiau - efallai pan fyddwn yn arbennig o awyddus i ganfod esgus dros beidio ag adolygu - byddwn yn agor gwerslyfr ac yn teimlo'n gyfarwydd â'r pwnc yn syth. Efallai bydden ni’n dweud rhywbeth fel 'Dw i'n gwybod popeth am hyn i gyd!' neu 'Dw i'n cofio pan soniodd y darlithydd am hyn.' Yn eithaf cyflym rydym yn cael ymdeimlad anghywir o hyder: 'Dw i'n cofio hyn i gyd! Does dim angen gwastraffu amser yn mynd dros hyn i gyd eto, yn enwedig pan allwn i fod yn gwneud rhywbeth llawer mwy dymunol yn lle hynny.'
Ond, pe byddem yn ein profi ein hunain ar yr eiliad honno, pe byddem yn cau'r llyfr, neu'n troi'n nodiadau drosodd ac yn ceisio atgynhyrchu'r holl wybodaeth o'n cof, pa mor llwyddiannus bydden ni? Ddim yn llwyddiannus iawn siŵr o fod! Sut gall hyn ddigwydd?
Adnabod yn erbyn Atgofio
Mae hyn yn ymddangos yn rhyfeddol, ond i ddeall pam mae’n digwydd, mae angen gwybod y gwahaniaeth rhwng adnabod ac atgofio.
Bydd y postiad hwn yn egluro’r gwahaniaeth hwn i chi ac yn dangos sut gallwch fanteisio ar hyn i wneud adolygu'n fwy effeithiol.
Mae adnabod yn cyfeirio at deimlo'n gyfarwydd â gwybodaeth rydym wedi dod ar ei thraws o'r blaen pan gaiff ei chyflwyno i ni eto.
Dyma un o'r rhesymau pam mae profion amlddewis yn haws nag arholiadau sy'n seiliedig ar draethodau. Efallai na fyddwch chi'n cofio am beth mae GDPR yn sefyll, ond pe bawn i'n rhoi dau opsiwn i chi: megis, Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn erbyn Rheoliad Rhaglenni Graffig a Digidol, rywle yng nghefn eich meddwl byddai adlais tawel yn dweud bod GDPR yn ymwneud â diogelu data personol. Yn yr achos hwn, nid oes angen i chi 'wybod' yn iawn am beth mae GDPR yn sefyll gan ei bod yn ddigon os oes gennych frith gof bod GDPR yn ymwneud â 'diogelu data', ac yna mae gennych chi'r ateb. Mae'r wybodaeth wedi'i storio eisoes yn eich ymennydd, ond roedd angen ciw i brocio'ch cof (e.e., yr ymadrodd 'Diogelu Data'), cyn y gellid galw’r wybodaeth i’ch cof.
Fodd bynnag, mewn arholiadau sy'n seiliedig ar draethodau, mae angen defnyddio sgìl ychydig wahanol (a llawer mwy anodd!): Atgofio.
Mae atgofio yn fath o adalw atgofion sy'n cynnwys dwyn gwybodaeth i’ch cof heb giwiau neu brociau penodol. Nid oes modd dibynnu ar gynefindra - mae'n rhaid i chi adalw’r wybodaeth yn annibynnol.
Ydych chi erioed wedi gwneud eich gorau glas i gofio rhywbeth fel enw actor mewn ffilm ac wedyn, ar ôl methu cofio'r enw o gwbl, mae rhywun yn dweud yr enw ac yn syth mae'n anodd i chi ddeall pam nad oeddech chi'n ei gofio gan ei fod bellach mor amlwg? Y rheswm dros hynny yw eich bod chi'n gallu adnabod yr actor ond ddim yn gallu cofio ei enw.
Pam mae atgofio’n well?
Wedi cadarnhau hynny, gadewch i ni ganolbwyntio’n awr ar pam y gallai fod yn well defnyddio atgofio yn hytrach nag adnabod wrth ysgrifennu.
I ddechrau, mae'n ffordd fwy dibynadwy o ragweld sut byddwch chi'n perfformio mewn arholiad. Dengys ymchwil fod y teimlad o gynefindra rydyn ni'n ei gael pan fyddwn yn adnabod rhywbeth (megis ailddarllen pennod mewn gwerslyfr) yn gallu bod yn gamarweiniol. Nid yw cael y teimlad ein bod yn gwybod rhywbeth yr un peth â gwybod rhywbeth mewn gwirionedd. Mewn geiriau eraill, gall adnabod gwybodaeth wneud i chi deimlo eich bod chi wedi'i dysgu, hyd yn oed pan na fydd modd ei hadalw’n annibynnol.
Yn ail, mae astudiaethau niferus yn dangos bod ymarfer atgofio rhydd yn un o'r dulliau gorau ar gyfer dysgu tymor hir. Adwaenir hyn fel yr 'effaith brofi', ac mae'n awgrymu bod yr ymdrech i gofio deunydd a ddysgwyd gynt yn galluogi rhywun i’w gofio’n well yn y tymor hir nag astudio'r un wybodaeth am yr eildro. Mae'r goblygiad yma'n amlwg: Mae'n fwy defnyddiol i chi ddarllen pennod unwaith, cau'r llyfr a cheisio cofio cymaint ag y gallwch na darllen yr un bennod am yr eildro.
Felly os hoffech gael syniad o ran pa mor barod rydych chi am eich arholiad, peidiwch â dibynnu ar adnabod. Eisteddwch gyda darn gwag o bapur ac ymarfer atgofio rhydd. Cewch chi syniad llawer mwy cywir o faint byddwch chi'n ei gofio ar ddiwrnod yr arholiad ac ar ben hynny, mae'n un o'r ffyrdd gorau o adolygu!