Cael eich Canlyniadau a Chadarnhau eich Lle

Gelwir y cyfnod ym mis Awst bob blwyddyn pan fydd prifysgolion yn derbyn canlyniadau arholiadau ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll Safon Uwch, TGAU neu gymwysterau eraill yn “Confirmation” neu Gadarnhad.

Rydyn ni’n derbyn y rhan fwyaf o’r cymwysterau poblogaidd yn uniongyrchol drwy UCAS.

Gallwch ddod o hyd i restr o’r canlyniadau arholiadau a dderbyniwn yn uniongyrchol gan UCAS ar wefan UCAS - gwiriwch y rhestr, ac os nad yw’r cymhwyster rydych yn ei astudio wedi’i restru, bydd angen i chi anfon y canlyniadau atom cyn gynted ag y byddwch yn eu cael. Anfonwch PDF neu lun clir, darllenadwy i admissions@swansea.ac.uk, a bydd ein Tîm Derbyniadau yn ei drin cyn gynted â phosibl.

Canllawiau Defnyddiol ar gyfer Diwrnod Canlyniadau

Cwestiynau Cyffredin

Dyma atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am sefyllfaoedd go iawn sy'n codi ar ddiwrnod y canlyniadau: