Myfyrwyr mewn cynulleidfa yn sgwrsio gyda phanel o bobl o gwmniau a busnesau sy'n eistedd y tu ôl i fwrdd ar flaen yr ystafell.

Cymorth Gyrfaoedd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Yma yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, rydym yn ymfalchïo'n fawr yn rhagolygon gyrfa ardderchog ein graddedigion.

Mae 98% o raddedigion mewn cyflogaeth, astudio a/neu weithgareddau eraill fel teithio. (Arolwg Canlyniadau Graddedigion HESA 2022).

Rydym bob amser yn ceisio gwella cyflogadwyedd ein myfyrwyr, drwy feithrin cydberthnasau cryf â chyflogwyr graddedigion a thrwy sicrhau bod ein myfyrwyr mor barod â phosibl ar gyfer byd gwaith.