Croeso i’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae ein hadran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ymhlith yr 20 orau yn y Deyrnas Unedig (Times Good University Guide 2021) ac mae ein hymchwil yn 5ed yn y Deyrnas Unedig ar gyfer effaith (FfRhY 2014). 

Wedi’i lleoli yn y cyfleusterau a’r labordai o’r radd flaenaf ar Gampws y Bae, mae ein hadran yn lle gwych i archwilio sut mae’r corff dynol yn perfformio dan lefelau gwahanol o bwysedd, a’r materion ehangach sy’n ymwneud â lefel uwch o gyfranogaeth mewn chwaraeon, i foeseg, seicoleg chwaraeon a maeth.

Drws i ddyfodol disglair

Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Cymhwysol (A-STEM) Ymchwil

Cynhelir ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn nifer o feysydd, gan gynnwys atal dopio a moeseg chwaraeon, gweithgarwch corfforol plant a ffisioleg ymarfer corff. Mae Abertawe yn bumed yn y Deyrnas Unedig o ran effaith ymchwil perfformiad chwaraeon elit ac atal dopio. Darllen mwy...