Gan weithio gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Ranbarthol Arbenigedd (RCE) Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Prifysgol Abertawe wedi creu Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol (CERIG) i Gymru.

Mae symud tuag at economi gylchol yn galw am ymagwedd amlddisgyblaethol, gan gynnwys ymchwil ac arloesi mewn meysydd megis: dylunio cynnyrch ar gyfer ailwampio ac ailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd ac echdynnu adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy'n annog gweithgynhyrchwyr i ddylunio cynnyrch am hirhoedledd; datblygu safonau priodol a threfniadau llywodraethu, ac archwilio sut gallwn gyfleu cyfleoedd a herio cysyniadau ynghylch yr economi gylchol.

Dim ond drwy gyfuno arbenigedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gallwn fynd i'r afael â'r newid i systemau y mae ei angen i wneud yr economi gylchol yn realiti.

Mae gennym lawer o arbenigedd ym Mhrifysgolion Cymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i'r afael â heriau'r economi gylchol.

Nod arfaethedig y grŵp yw 'cysylltu arbenigedd cyflenwol a phrofiadau i hwyluso arloesedd ac ymchwil yr economi gylchol yng Nghymru’.

Mae gan y Grŵp yr amcanion canlynol:

  • Darparu fforwm i rannu arfer da a hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd, busnesau a llunwyr polisi.
  • Drwy gydweithio, cynyddu gallu ymchwil yr economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant i ddatblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
  • Darparu tystiolaeth i gyfeirio polisïau a rhaglenni'r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso cyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi datblygiad partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar ddatblygu'r cwricwlwm a hyfforddiant.
  • Gweithio gyda rhwydwaith y Ganolfan Ymchwil Rhanbarthol Fyd-eang (wedi'i gydnabod gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) i rannu dysgu ac arfer da ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae CERIG yn galluogi busnesau i gael mynediad yn effeithiol ac yn effeithlon i arbenigedd a gwybodaeth berthnasol ledled byd academaidd Cymru.

Podlediad ar Apple

Podlediad ar Spotify