'Fy Hoff Leoliadau a Lleoedd'

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas eleni, sy'n cael ei ddathlu ar 14 Mai bob blwyddyn, mae ein rhaglen addysg ac ysgolion, DylanED, yn gwahodd ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn.

Mae'r gystadleuaeth - 'Fy Hoff Leoliadau a Lleoedd' -  yn seiliedig ar raglen radio Dylan Thomas, Remininscences of Childhood - Dylan Thomas cofio clasurol o golygfeydd a synau ei blentyndod.

Gan ddilyn yn ôl traed ysgrifennwr a storïwr enwocaf Abertawe, bydd y gystadleuaeth yn gwahodd disgyblion rhwng 8 ac 11 oed i gyflwyno stori fer (100 o eiriau), cerdd neu lun o'u hoff leoedd a lleoliadau eu hunain.

Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn bag llawn pethau da a thystysgrif. Bydd ceisiadau dethol yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa ar-lein i ddathlu 'Diwrnod Dylan'.

Dylid cyflwyno ceisiadau'n electronig erbyn dydd Llun 27 Ebrill 2026 i cultural-institute@abertawe.ac.uk dan y teitl ‘Fy Hoff Leoliadau a Lleoedd.'

*Rhaid i'r holl geisiadau gael eu cyflwyno drwy athro/ysgol y plentyn.