To Rest Our Minds and Bodies gan Harriet Armstrong (Les Fugitives)
Yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol, mae gan fyfyrwraig israddedig sy'n astudio seicoleg obsesiwn rhamantus â myfyriwr ôl-raddedig ar gwrs cyfrifiadureg. Mae'r stori am gariad cyntaf, nad yw'n cael ei ddychwelyd yn llwyr, To Rest Our Minds and Bodies, yn ymdrin â materion dyrys perthnasoedd rhwng y rhywiau, dyheadau gwrthwynebol, cydsyniad a dirywiad iechyd meddwl Gen Z. Mae Armstrong yn archwilio natur profiad, gan olrhain dirywiad ymdeimlad menyw ifanc o'i hunan a'i chysylltiad â'r byd diriaethol mewn gwrth-Bildungsroman sy'n nofel gyntaf bwerus.
Harriet Armstrong, To Rest Our Minds and Bodies (Les Fugitives)
Ganwyd a magwyd Harriet Armstrong yn Rhydychen. Yn 2024, yn 24 oed, roedd hi'n Breswylydd yn Sefydliad Giancarlo DiTrapano ar gyfer Llenyddiaeth a'r Celfyddydau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, To Rest Our Minds and Bodies, gan Les Fugitives ym mis Mehefin 2025, ac mae wedi'i chyhoeddi neu ar y gweill mewn cyfieithiadau Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Thwrceg. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi yn Forever Magazine, London Magazine, Granta, HEAT Literary Magazine (Giramondo), Kismet, Virginia Quarterly Review, the Georgia Review, ac mewn mannau eraill. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn Llundain. [Cydnabyddiaeth llun: Maria Calinescu]
Instagram: @harrietarmstrong2000
Chaotic Good gan Isabelle Baafi (Faber)
Nofel gyntaf dreiddiol am yr hyn sydd wrth ein gwraidd, sut rydym yn colli ein ffordd a sut rydym yn darganfod hunaniaeth newydd.
Wedi'i fframio gan stori o ddianc rhag priodas wenwynig, mae Chaotic Good yn canolbwyntio ar y ffyrdd cynyddrannol y mae pŵer yn cronni, yn newid ac yn cael ei ildio, yn y cartref a'r gymuned. Yn graff, yn drwyadl ac yn fedrus, mae Isabelle Baafi yn ein hatgoffa o bwysigrwydd hunanbenderfyniad a sut, pan fyddwn yn teimlo ar ein gwannaf, y gallwn ddarganfod yr hyn sydd ei angen yn ddwfn y tu mewn i'n hunain. 'This time and every time, I was the code I needed to find my way back.'
Isabelle Baafi, Chaotic Good (Faber)
Bardd, golygydd a beirniad yw Isabelle Baafi. Enillodd ei phamffled Ripe (ignitionpress) Wobr Somerset Maugham ac roedd yn un o Bamffledi Dewis Cymdeithas Llyfrau Barddoniaeth. Mae ei barddoniaeth a'i rhyddiaith wedi'u cyhoeddi yn y TLS, Poetry Review, London Magazine, Oxford Poetry ac mewn mannau eraill. Astudiodd Lenyddiaeth Gymharol a Ffilm ym Mhrifysgol Caint, ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Rhydychen. Hi yw Golygydd Adolygiadau Poetry London, Beirniad Poetry Ledbury a golygydd Magma Poetry.
X: @isabellebaafi | Instagram: @isabellebaafi |
Gwefan: www.isabellebaafi.com
We Pretty Pieces of Flesh gan Colwill Brown (Chatto & Windus, Vintage)
Ask anyone non-Northern, they’ll only know Donny as punch line of a joke or place they changed trains once ont way to London.
Ond Doncaster hefyd yw cartref Rach, Shaz a Kel, ffrindiau gorau ers plentyndod a genod Doncaster i'r carn. Maen nhw'n rhannu popeth, o berswadio'r bownsars i'w gadael i mewn i glybiau nos i deithiau i'r clinig cynllunio teulu pan fyddan nhw’n hwyr. Er bod Rach yn amheus am gynlluniau mwy beiddgar Shaz, neu fod Shaz sy'n dod o un o ardaloedd mwy garw'r dref, yn teimlo ei bod hi'n cael ei gadael ar ôl wrth i'r lleill ddechrau cynllunio am fynd i'r brifysgol; neu er bod Kel weithiau'n teimlo wedi'i rhannu'n ddwy gan geisio cadw'r heddwch - mae eu cyfeillgarwch mor gadarn â’r merched eu hunain. Ond wrth iddynt dyfu’n hŷn ac ymhellach oddi wrth ei gilydd, mae cyfrinach sydd wedi bod yn mudlosgi am amser hir yn bygwth chwalu cyfeillgarwch y tair.
Mae We Pretty Pieces of Flesh yn gafael yn eich llaw ac yn eich tywys drwy iardiau ysgol, aleau a chlybiau nos Doncaster, gan ddatgelu bradwriaethau personol ieuenctid a'r ffyrdd rydym yn ein bradychu ein hunain drwy beidio ag ymddiried yn ein ffrindiau. Yn debyg i The Glorous Heresies a Shuggie Bain, mae'n adrodd hanes bywydau caled ac yn gwneud iddynt ganu, gan droi un lle sydd wedi'i esgeuluso'n ganolbwynt y byd.
Colwill Brown, We Pretty Pieces of Flesh (Chatto & Windus, Vintage)
Ganwyd a magwyd Colwill Brown yn Doncaster, De Swydd Efrog. Mae ganddi radd Meistr mewn Celfyddyd Gain , o Brifysgol Texas yn Austin, lle enillodd gymrodoriaeth Canolfan James A. Michener ac MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Goleg Boston. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Granta, Prairie Schooner ac mewn mannau eraill. Am bymtheg mlynedd, mae hi wedi byw gydag ME/ syndrom blinder cronig, clefyd niwrolegol llethol sy'n cael ei sbarduno gan firws, sydd, oherwydd esgeulustod meddygol systemig, heb driniaeth ar hyn o bryd. Yn ferch falch o Donny, mae hi'n honni ei bod wedi chwarae gitâr bas yn bron pob lleoliad roc ar gylchdaith o doiledau De Swydd Efrog [Cydnabyddiaeth llun:: Kathryn Widdowson]
Instagram: @_colwill_
Joy Is My Middle Name gan Sasha Debevec-McKenney (Fitzcarraldo Editions)
Mae Joy Is My Middle Name yn ymdrin ag ymlusgo drwy eich ugeiniau a dod i'r golau yn eich tridegau. Gan gerdded yn anesmwyth drwy ddinasoedd a threfi gwledig, siarad am ryw, hil, benywdod, caethiwed, bod yn sobor, prynwriaeth a diwylliant pop, mae'r cerddi hyn yn tynnu, mor rhwydd â sgwrsio, ar ymylon yr hunan wedi'i berfformio.
Yn ddiymhongar, yn benfeddw, yn feiddgar, yn llawn empathi, yn chwyldroadol, yn sionc - mae'r casgliad yn teimlo fel sgwrs gyda'ch ffrind gorau, dros y cinio gorau erioed. Yn llawn straeon, cymeriad, tawelwch anesmwyth, teimladau cyfarwydd; caiff cyffro eiliadau perffaith ei gyfleu ar y dudalen.
Sasha Debevec-McKenney, Joy is My Middle Name (Fitzcarraldo Editions)
Mae cerddi Sasha Debevec-McKenney wedi ymddangos yn The New Yorker, y New York Review of Books a'r Yale Review. Hi oedd Cymrawd Barddoniaeth Jay C. a Ruth Halls 2020-2021 ym Mhrifysgol Wisconsin ac ar hyn o bryd mae'n gymrawd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Emory. Mae hi'n byw yn Decatur, Georgia [Cydnabyddiaeth llun: Michael Doyle Olson]
Instagram: @sashajdm
Under the Blue gan Suzannah V. Evans (Bloomsbury Poetry)
Gan y bardd sydd wedi ennill llu o wobrau: casgliad newydd o delynegiaeth a dyhead gorfoleddus, sy'n archwilio'r weithred o ofal a chanlyniadau caru.
Mae Under the Blue yn archwiliad gafaelgar di-flewyn ar dafod o harddwch godidog bywyd a realiti gofal.
Drwy gyfres o gerddi prôs disglair a thameidiog a chardiau post atgofus, mae Suzannah V Evans wedi creu myfyrdod amryliw wedi'i wreiddio mewn dyngarwch ac empathi dwys - am agosrwydd a chydberthynas, salwch a phoen, yr hyn y gellir ei ddweud a'r hyn nad oes modd ei ddweud.
Suzannah V. Evans, Under the Blue (Bloomsbury Poetry)
Mae Suzannah V. Evans yn fardd, yn ymchwilydd ac yn addysgwr. Hi yw awdur Brightwork a Marine Objects / Some Language, a golygydd All Keyboards are Legitimate:Versions of Jules Laforgue. Mae ei barddoniaeth wedi ennill Gwobr Ivan Juritz am Arbrawf Creadigol a Gwobr Awduron y Gogledd, wedi’i pherfformio mewn gwyliau rhyngwladol a’i darlledu ar Radio’r BBC. Mae hi'n addysgu llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ac yn byw ym Mryste. Under the Blue yw ei chasgliad cyntaf. [Cydnabyddiaeth llun: Naomi Woddis]
Instagram: @suzannahvevans
Open, Heaven gan Seán Hewitt (Jonathan Cape [Vintage, Penguin Random House])
Mae James yn breuddwydio am fywyd arall yn bell o'i bentref bach. Ac yntau bron yn oedolyn, mae ei ddyheadau newydd yn bygwth chwalu ei wedd allanol swil. Yna mae'n cwrdd â Luke. Yn anniben ac yn olygus, yn garismatig ac yn fyrfyfyr, mae wedi cael ei anfon i aros gyda'i fodryb a'i ewythr ar fferm gerllaw.
Wrth i'r tymhorau fynd heibio, mae agosrwydd yn datblygu rhyngddynt sy'n trawsnewid eu bywydau. Ac eto, nid yw James byth yn siŵr o wir deimladau Luke ac wrth i’r haf ddirwyn i ben, mae'n rhaid iddo ddewis: a fydd yn rhoi popeth yn y fantol am bosibiliad cariad?
Seán Hewitt, Open, Heaven (Jonathan Cape [Vintage, Penguin Random House])
Ganwyd Seán Hewitt ym 1990. Mae'n awdur dau gasgliad o farddoniaeth, Tongues of Fire a Rapture's Road, a hunangofiant, All Down Darkness Wide. Cydweithredodd â'r artist, Luke Edward Hall, ar 300,000 Kisses:Tales of Queer Love from the Ancient World. Mae Hewitt wedi ennill Gwobr Laurel a Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig ac wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llenor y Flwyddyn The Sunday Times. Mae'n darlithio yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth [Cydnabyddiaeth llun: Stuart Simpson]
Instagram: @seanehewitt
What Remains After a Fire gan Kanza Javed (W.W. Norton & Company)
Casgliad hiraethus, pwerus o straeon sy'n rhychwantu Pacistan heddiw a'r gymuned ar wasgar yn yr Unol Daleithiau, gan ddawn lenyddol gyffrous newydd.
Mewn wyth stori amrwd, wedi'u creu â sgìl syfrdanol, mae Kanza Javed yn datgelu bywydau cymeriadau sy'n ymdrechu'n ddiwyd i greu bywyd iddyn nhw eu hunain ar ymylon cymdeithas. Mae dyn sy'n gaeth i gyffuriau yn dysgu ei fab ifanc i saethu cŵn gwyllt ar strydoedd Lahore. Mae Cristion o nyrs yn cael ei rhwydo i gynllun i ddal ysbryd cyn gariad ei chlaf. Mae myfyriwr Pacistanaidd mewn tref fach Apalachaidd yn dod i delerau â gweithred sydyn o drais sy'n chwalu ei chamargraffiadau o ddiogelwch a rhyddid. Mae gwraig unig sy'n gaeth i'r tŷ yn ystod gaeaf garw yn datblygu obsesiwn cynyddol â doli gofidiau a adawyd gan gyn denant.
Wedi'u hysgrifennu â chraffter seicolegol dwys ac empathi rhyfeddol, mae'r straeon hyn yn ymestyn ar draws bylchau dosbarth, rhyw a chrefydd wrth i Javed archwilio'n fedrus faterion hunaniaeth a galluogedd, perthyn a cholled. Mae What Remains After a Fire yn bortread teimladwy o gymeriadau hynod wydn sy'n dyheu am fwy na'r hyn mae eu hamgylchiadau'n gallu ei gynnig iddynt - a'r pris byddant yn ei dalu am y dyheadau hyn yn y pen draw.
Kanza Javed, What Remains After a Fire (W.W. Norton & Company)
Ganwyd a magwyd Kanza Javed yn Lahore. Mae ganddi radd Meistr mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Gorllewin Virginia, lle derbyniodd Wobr Rebecca Mason Perry, ac MPHIL o Goleg Menywod Kinnaird. Cafodd ei rhoi ar restr fer Prosiect Ysgrifenwyr Santa Fe ac enillodd Wobr Reynolds Price am Ffuglen yn 2020. Mae ei gwaith ysgrifenedig wedi ymddangos yn American Literary Review, Punch Magazine, Salamander, The Malahat Review, Narrating Pakistan, Greensboro Review ac mewn mannau eraill [Cydnabyddiaeth llun: Farrukh Gill]
X: @KanzaJaved | Instagram: @kanza_j
The Tiny Things Are Heavier gan Esther Ifesinachi Okonkwo (Manilla Press [Bonnier Books UK])
Mae The Tiny Things Are Heavier yn dilyn Sommy, menyw o Nigeria sy'n dod i'r Unol Daleithiau i fynychu ysgol graddedigion bythefnos ar ôl i'w brawd, Mezie, geisio lladd ei hun. Wedi'i gormesu gan deimladau o euogrwydd yn sgîl gadael Mezie, mae Sommy yn ei chael hi'n anodd addasu i'w bywyd newydd fel myfyriwr a mewnfudwr. Yn unig ac yn hiraethu am adref, mae Sommy yn dechrau perthynas gymhleth â Bayo, myfyriwr afreolus o Nigeria sy'n rhannu ystafell â hi. Mae'r berthynas hon yn troi'n dwyllodrus wrth i Sommy gwympo mewn cariad â Bryan, Americanwr hil gymysg sydd wedi'i ddieithrio o'i dad Nigeriaidd a adawodd yr Unol Daleithiau yn union ar ôl ei enedigaeth. Wedi'u cysylltu gan eu teimladau o ddiffyg perthyn ac ymdeimlad annelwig o garennydd, mae Sommy a Bryan yn goresgyn heriau eu perthynas newydd.
Yn ystod gwyliau'r haf, mae Sommy a Bryan yn ymweld â dinas fywiog Lagos, Nigeria, lle mae Sommy yn gobeithio cymodi â Mezie ac mae Bryan yn bwriadu cysylltu â'i dad. Ond mae digwyddiad brawychus ac annisgwyl yn troi eu bywydau ben i waered gan amlygu'r gwendidau ym mherthnasoedd Sommy a’i gorfodi i ddelio â'i syniadau o hunaniaeth a chariad teuluol.
Nofel feiddgar ac uchelgeisiol wedi'i llunio mewn rhyddiaith dyner, mae The Tiny Things Are Heavier yn bortread gafaelgar sy'n archwilio anawsterau mudo, agweddau cynnil system ddosbarthiadau Nigeria, a pha mor bell byddwn yn mynd i amddiffyn y bobl rydym yn eu caru.
Esther Ifesinachi Okonkwo, The Tiny Things Are Heavier (Manilla Press [Bonnier Books UK])
Mae Esther Ifesinachi Okonkwo yn athro cynorthwyol ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Michigan-Dearborn. Enillodd radd Meistr mewn Celfyddyd Gain o Weithdy Ysgrifenwyr Iowa a PhD o Brifysgol Talaith Florida. Mae ei ffuglen wedi ymddangos yn Isele Magazine, Guernica, a Catapult. Mae hi wedi derbyn Grant Sefydliad Elizabeth George yn 2021. Lagos, Nigeria yw ei chartref. Mae hi'n byw yn Detroit, Michigan. [Cydnabyddiaeth llun: LeChoyce Photography]
Instagram: @ifesinachy
Borderline Fiction gan Derek Owusu (Canongate)
Loneliness means you don't have to disappoint anyone until you develop the habit of talking to yourself
Ac yntau'n 19 oed, mae Marcus yn ifanc ac mewn cariad. . eto. Pan fydd testun diweddaraf ei gariad, Adwoa yn dechrau dangos gwir deimladau ato, mae Marcus yn barod i ailystyried ei ffordd o fyw - y cyffuriau, y cysylltiadau byrhoedlog. O leiaf am ychydig.
Nawr, cyn iddo sylweddoli hynny, mae Marcus yn 25 oed. Ac mae peryg y bydd hanes yn ailadrodd ei hun.
Wedi'i hadrodd drwy ddau naratif cyfochrog - un yn y gorffennol ac un yn y presennol - mae Borderline Fiction yn chwedl gyfoes hynod wreiddiol a luniwyd â dwysedd emosiwn a breuder. Mae'r nofel yn archwiliad manwl, sydd weithiau'n anghyfforddus ac weithiau'n ddoniol, o sut brofiad yw bod yn ddyn du ifanc sy'n gwneud ei ffordd drwy'r byd heddiw.
Yn ingol, yn hardd, yn bryderus ac yn farddonol, mae Borderline Fiction yn gipolwg cofiadwy ar fyd mewnol dyn ifanc sy'n chwilio am ffordd ddilys o garu a chael ei garu.
Derek Owusu, Borderline Fiction (Canongate)
Mae Derek Owusu yn awdur a bardd arobryn o ogledd Llundain. Mae wedi ysgrifennu i'r BBC, ITV, Granta, Esquire, GQ a Tate Britain. Yn 2019, casglodd, golygodd a chyfrannodd Owusu at SAFE:On Black British Men Reclaiming Space, detholiad sy'n archwilio profiadau dynion Du ym Mhrydain. Enillodd ei nofel gyntaf, That Reminds Me, Wobr Desmond Elliott am y nofel gyntaf orau a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Roedd ei nofel Losing the Plot ar restr hir Gwobr Jhalak a Gwobr Dylan Thomas yn 2023. Yn 2023, cafodd ei ddewis yn un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain gan Granta. [Cydnabyddiaeth llun: Josimar Senior]
Instagram: @DerekvsOwusu
Absence gan Issa Quincy (Granta)
Mae plentyn yn cael ei swyno gan gerdd a ddarllenir iddo gan ei fam. Mae'r gerdd yn dilyn yr adroddwr anodd ei adnabod hwn fel sibrwd drwy ei fywyd, gan atseinio drwy'r blynyddoedd yn straeon a bywydau pobl eraill wrth iddynt gael eu hadrodd iddo: athro ysgol enigmatig ac annwyl sy'n gadael cyfrinach tywyll ar ôl iddo farw; menyw sy'n gosod y bwrdd ar gyfer mab mae'n gwybod na fydd byth yn dod adref; dyn ifanc y mae ei deulu wedi troi eu cefnau arno, yn cael cysur a rhyddid mewn llythyrau gan fodryb sydd wedi'i dieithrio; ffotograff du a gwyn sy'n portreadu teulu arall sydd wedi dioddef cenedlaethau o drasiedi.
Gyda dychymyg angerddol, mae Issa Quincy wedi creu portread rhagorol o ddynolryw, gan daflu goleuni'n fedrus ar symffoni o atgofion, sibrydion ac ysbrydion sydd, gyda'i gilydd, yn creu darlun o fywyd dynol cyffredin.
Issa Quincy, Absence (Granta)
Mae Issa Quincy yn awdur Prydeinig. Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos yn y London Magazine a'r Atlantic, ac mae wedi'i dethol gan New Rivers Press. Mae ei ffuglen wedi ymddangos yn Transition Magazine a'r Kenyon Review. Absence yw ei nofel gyntaf. [Cydnabyddiaeth llun: Jim Larsen]
Gunk gan Saba Sams (Bloomsbury Circus)
Cafodd Jules ysgariad oddi wrth ei chyn ŵr, Leon, bum mlynedd yn ôl, ond mae hi dal yn gweithio ochr yn ochr ag ef yn Gunk, y clwb nos salw i fyfyrwyr mae'n berchen arno yng nghanol Brighton. Mae hi'n treulio ei nosweithiau'n gweini siotiau ac yn gwylio, o tu ôl i'r bar, wrth i Leon fflyrtian gyda myfyrwyr ar y llawr dawnsio.
Ond un diwrnod, mae Leon yn cyflogi Nim sy'n 19 oed i weithio y tu ôl i'r bar - ac mae ei chyrhaeddiad yn ysgwyd Jules yn effro am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Pan fydd Nim yn darganfod ei bod hi'n feichiog, mae Jules yn cytuno i helpu. Wrth i'r misoedd fynd heibio, mae'r berthynas rhwng y ddwy fenyw yn dod yn gynyddol agos a chymhleth, a daw'n amlwg bod gan Nim ei rhoddion annisgwyl ei hun i'w rhoi.
Bellach, ar ei phen ei hun yn ei fflat bach, mae Jules yn dal baban a anwyd dim ond 24 awr yn ôl, ac oglau Nim arno o hyd. Ond does neb yn gwybod ble mae Nim, neu a fydd hi'n dod yn ôl. Pa fath o ddyfodol a all fod yn yr arfaeth ar gyfer Jules, Nim a'r baban heb ei enwi hwn.
Yn amrwd, yn wefreiddiol, yn dyner ac yn ddoeth, mae Gunk yn nofel gyntaf gyffrous sy'n archwilio cariad a nwyd, diogelwch a difa, anhrefn a rheolaeth - a theulu yn ei holl ffurfiau.
Saba Sams, Gunk (Bloomsbury Circus)
Magwyd Saba Sams yn Brighton ac mae hi bellach yn byw yng Nghymru. Cafodd ei dewis ar gyfer rhestr Granta’s Best of Young British Novelists yn 2023 a The Sunday Times Young Power List yn 2025. Enillodd Wobr Stori Fer Edge Hill yn 2022 am ei chasgliad o straeon byrion Send Nudes ac fe’i rhoddwyd ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2023. Enillodd Wobr Stori Fer Genedlaethol y BBC am y stori ‘Blue 4eva’ o’r casgliad. Dewiswyd Send Nudes yn llyfr y flwyddyn gan y Guardian, Stylist, Vogue, Glamour, Cosmopolitan, Evening Standard, Irish Independent, AnOther, Foyles a Bookshop.org, a chafodd ei enwi’n llyfr clawr meddal y flwyddyn gan y Sunday Times yn 2023. [Cydnabyddiaeth llun: Alice Zoo]
Instagram: @Saba_sams
Make a Home of Me gan Vanessa Santos (Dead Ink Books)
Edrychwch drwy dwll y clo a beth a welwch?
Cinio gwadd rhyfedd â thro erchyll. Perthynas newydd ddwys menyw â thad sengl a'i ferch hynod swil. Dyddiaduron newydd eu hailddarganfod artist enwog a chanddo obsesiwn rhyfedd a ddiflannodd mewn amgylchiadau amheus. Teulu wedi'i wthio i ben ei dennyn gan ymddangosiad amhosib nodiadau ynfyd. A phâr priod sy'n hapus ar yr arwyneb, wedi'u gwthio i ymyl anobaith gan wylofain baban un o'r cymdogion.
Wedi’u lleoli mewn tai a ddylai amddiffyn eu preswylwyr ond sydd yn hytrach yn troi arnynt, lleoedd diogelwch sy'n cael eu gormesu'n ddirybudd, a thirweddau cyfarwydd sy'n newid yn raddol y tu hwnt i adnabyddiaeth, mae’r straeon yn Make a Home of Me yn ymdrin â'r holl ffyrdd y gall ein llochesi droi'n lleoedd dieithr, gan ein troi ni'n ddieithriaid wrth i ni grwydro'r coridorau.
Mae'r straeon yn Make a Home of Me yn rhyfedd ac yn arbennig, gan gyflwyno llais newydd ffres i dirwedd arswyd.
Clowch y drws ar ôl i chi orffen....
Vanessa Santos, Make a Home of Me (Dead Ink Books)
Ganwyd a magwyd Vanessa Santos ar ynys fach yng nghanol Cefnfor yr Iwerydd. Mae hi bellach yn byw yn yr Alban (er yn dal i fod wrth y môr) ac yn treulio cymaint o'i hamser â phosibl yn darllen straeon, yn ysgrifennu straeon, ac yn crwydro coedwigoedd diddiwedd yr Alban. Mae ei stori ffuglen fer wedi'i chyhoeddi ar-lein yn Samjoko Magazine ac Idle Ink, ac mewn blodeugerddi gan Sliced Up Press, Colp, a Solar Press. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion Make a Home of Me gan Dead Ink yn 2025, a bydd ei nofel gyntaf In Your Heart a Devil yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref 2026, hefyd gan Dead Ink.
Instagram: @nesscbsantos