Drwy broses adolygu sylweddol, nododd y Brifysgol gyfle i wella ei phrosesau monitro a datblygu rhaglenni. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid ymarferion allweddol traddodiadol megis yr Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau, yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni (APR) a'r Adolygiad Ansawdd (QR)[1] i gyd-fynd yn well â safonau presennol y sector a dyheadau ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n parhau i fod ar flaen y gad o ran rhagoriaeth addysgol.

Mae’r ymagwedd newydd o welliant parhaus yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â chyfleoedd i wella mewn modd effeithlon, amser real sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy wella hygyrchedd data, symleiddio dadansoddi a lleihau’r baich gweinyddol ar staff academaidd. Mae’n canolbwyntio ar gamau gweithredu cyflym ac effeithiol i wella profiad y myfyrwyr drwy feithrin cydweithredu rhwng academyddion, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr. Mae’r ymagwedd hon yn pwysleisio gwerthuso’n barhaus, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer da ac yn darparu cefnogaeth wedi’i thargedu lle bydd ei hangen. Mae hi hefyd yn cyd-fynd yn agos â disgwyliadau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), gan sicrhau bod ansawdd a safonau’n parhau i fod wrth wraidd arferion y Brifysgol. (Egwyddorion 4, 5 a 6 Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch). Mae’n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) perthnasol ar gyfer rhaglenni cymeradwy neu wedi’u hachredu drwy gynnwys rhanddeiliaid eraill, megis darparwyr lleoliadau gwaith neu wirfoddolwyr cynnwys y cyhoedd neu gleifion, wrth wella rhaglenni’n barhaus.

Monitro ac Adrodd

Mae’r broses monitro gwelliant parhaus yn ymagwedd flaengar sydd wedi’i dylunio i sicrhau’r safonau addysg uchaf a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy fabwysiadu system ddeinameg ac ymatebol yn lle adolygiadau traddodiadol, statig, gellir grymuso meysydd pwnc i fynd i’r afael â heriau a manteisio ar gyfleoedd wrth iddynt ddod i’r amlwg drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Un cynllun gweithredu tryloyw

Mae’r broses hon yn cefnogi gwella drwy hyrwyddo gwerthuso rhaglenni’n barhaus gan ddefnyddio data amser real megis adborth myfyrwyr, canlyniadau asesu ac adroddiadau arholwyr allanol. Bydd Cyfarwyddwyr Rhaglenni, gan weithio gyda Chydlynwyr eu Modiwlau a Chynrychiolwyr Myfyrwyr, yn datblygu ac yn cynnal a chadw Cynlluniau Gwella Rhaglen (PEP) strwythuredig ( manylir arnynt yn yr Arweiniad i Gyfadrannau), gan ddarparu fframwaith tryloyw ar gyfer gosod blaenoriaethau, dogfennu cynnydd ac ysgogi gwelliannau parhaus. Caiff yr un cynllun gweithredu ei ddefnyddio gan dîm y rhaglen i alinio camau gweithredu strategol a gweithredol allweddol, nodi patrymau a thueddiadau data a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar gynnydd i gymuned y myfyrwyr.

Mae Cynlluniau Gwella Rhaglen (PEP) wedi cael eu datblygu ar gyfer pob maes pwnc (wedi’u trefnu yn unol â’u grwpiau Bwrdd Rheoli Rhaglenni (PMB) cytunedig)[2]) ac maent wedi’u dylunio i amlinellu camau gweithredu penodol a mesuradwy sydd â’r nod o wella ansawdd rhaglenni’n barhaus a gwella profiad y myfyrwyr. Mae’r grwpiau PMB yn helpu i gyfuno casgliad o raglenni a llwybrau’n un cynllun lle bydd myfyrwyr yn cael profiad tebyg a byddant yn cael eu rheoli gan yr un Bwrdd Astudiaethau/Cyfarwyddwr Rhaglen yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae Cynlluniau Gwella Rhaglen yn ddogfennau byw a bwriedir iddynt gael eu diweddaru’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd i adlewyrchu data sy’n dod i’r amlwg, adborth a blaenoriaethau. Mae pob PEP yn nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella, yn alinio’r rhain â nodau strategol y Brifysgol ac yn amlinellu camau gweithredu wedi’u targedu gan ddefnyddio’r fframwaith SMART (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Perthnasol, Amserol) i sicrhau atebolrwydd ac effaith.

Monitro Cynlluniau Gwella Rhaglen

Caiff y Cynlluniau Gwella Rhaglen eu monitro gan dimau rhaglenni drwy Fyrddau Astudiaethau. Arweinydd Addysg yr Ysgol sy’n gyfrifol am oruchwylio ar lefel yr Ysgol a’r Deon Cysylltiol Addysg sy’n gyfrifol am oruchwylio ar lefel y Gyfadran.  Gellir uwchgyfeirio cynlluniau drwy fforymau Addysg Ysgolion a Phwyllgorau Addysg Cyfadrannau at ddibenion arfer effeithiol ac uwchgyfeirio camau gweithredu neu heriau. Gall Arweinwyr Addysg Ysgolion a Deoniaid Cysylltiol Addysg uwchgyfeirio achosion lle nad yw’r Cynlluniau Gwella Rhaglen yn cael eu dilyn at ddibenion archwilio ymhellach. Bydd y Bwrdd Gwella Addysg (EEB) yn goruchwylio’r holl Gynlluniau Gwella Rhaglen a gwelliant parhaus ar lefel y sefydliad.

Ymatebolrwydd amser real

Ar ben hynny, mae hyblygrwydd y broses hon yn ein galluogi i ymateb yn brydlon i newidiadau o ran anghenion myfyrwyr, diweddariadau gan gyrff rheoleiddiol a/neu broffesiynol a datblygiadau byd diwydiant, gan sicrhau bod rhaglenni’n parhau i fod yn berthnasol ac yn ddeniadol, gan ganolbwyntio ar y dyfodol. Drwy integreiddio proses sicrhau ansawdd gadarn ag ymrwymiad i wella’n barhaus, mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod Prifysgol Abertawe’n darparu addysg sy’n drawsnewidiol ac yn gynaliadwy i’w myfyrwyr a’i rhanddeiliaid.

Metrigau a Mesurau

Mae’r Dangosfwrdd Gwella Rhaglenni’n Barhaus yn offeryn allweddol ar gyfer gwella ansawdd addysg a phrofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n cyflwyno metrigau perthnasol i raglenni mewn un lleoliad, gan symleiddio mynediad ar gyfer Cyfarwyddwyr Rhaglenni, Cydlynwyr Modiwl, Arweinwyr Addysg Ysgolion a Deoniaid Cysylltiol Addysg ar gyfer pob Cyfadran. Mae’n cefnogi myfyrio ar berfformiad rhaglenni, yn arwain trafodaethau gerbron Byrddau Astudiaethau ac yn cael ei ddefnyddio i lywio sut mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni’n nodi meysydd ar gyfer gwella ac yna’n cofnodi’r manylion yn eu Cynlluniau Gwella Rhaglen at ddibenion monitro. Mae’r ymagwedd hon yn lleihau’r baich gweinyddol ac yn sicrhau bod cysylltiad amlwg rhwng camau gweithredu â thystiolaeth er mwyn cyflawni’r effaith fwyaf.

Prif Fetrigau  Metrigau Eilaidd
  • Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS)
  • Hynt Graddedigion
  • Canlyniadau Gradd (Graddau Da)
  • Safleoedd mewn Tablau Cynghrair 
  • ARQUE (Data Perfformiad Modiwlau)
  • Yr Arolwg Profiad Myfyrwyr (SES) neu’r Arolwg Profiad Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir (PGTSES)
  • Data ynghylch Cadw a Dilyniant
  • Asesu Atodol
  • Ymgysylltiad myfyrwyr
  • Cwynion ac Apeliadau
  • Data Demograffig Manylach (yn dod yn fuan)

Bydd y data a gyflwynir yn y Dangosfwrdd yn cael ei ddadansoddi gan dimau’r rhaglenni yn ogystal â’r Gwasanaethau Ansawdd Addysg i sicrhau goruchwyliaeth ar lefel y sefydliad ynghyd â nodi unrhyw argymhellion i Gyfarwyddwyr Rhaglenni a Chydlynwyr Modiwlau eu hadolygu a’u trafod.

Bydd ffynonellau ychwanegol o ddata a gwybodaeth yn cynnwys adolygiad gan Arholwr Allanol a gofynion Cyrff Proffesiynol, Rheoleiddiol a Statudol.

Ymarfer Effeithiol ac Arloesi

Lluniwyd yr adran Ymarfer Effeithiol i gasglu a rhannu enghreifftiau o arferion sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, ymgysylltu neu foddhad myfyrwyr, gan arwain at fetrigau cadarnhaol a/neu welliannau sylweddol mewn canlyniadau.

Dylai enghreifftiau o ymarfer effeithiol fod yn gryno a dylent gynnwys cyd-destun, manylion am weithredu a thystiolaeth o lwyddiant, gan alluogi adrannau eraill i addasu a mabwysiadu’r arferion hyn lle bo hynny’n briodol. Annog cydweithwyr i fyfyrio ar fentrau ffurfiol ac ymagweddau anffurfiol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w myfyrwyr.

Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, bydd y Gwasanaethau Ansawdd Addysg yn cynnal dadansoddiad thematig o’r camau gweithredu a’r arferion effeithiol a gofnodwyd ym mhob Cynllun Gwella Rhaglen. Bydd y dadansoddiad hwn yn nodi themâu ailadroddol, ymyriadau llwyddiannus ac enghreifftiau eithriadol o arloesi y gellir dangos eu bod wedi gwella canlyniadau, ymgysylltu neu foddhad myfyrwyr.

Ymyriadau

Os na fydd meysydd pwnc neu raglenni wedi bodloni safonau perfformiad disgwyliedig, gallant fod yn destun rhagor o gymorth ac ymgysylltiad strwythuredig i sicrhau y gellir gwella profiad a chanlyniadau myfyrwyr yn gyflym. Yn y ffordd hon, gellir nodi a mynd i’r afael â heriau’n gyflym, heb ddyblygu prosesau nac aros i’r adeg berthnasol yn y cylch ansawdd, a allai fod yn rhy hwyr.

Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Addysg yn defnyddio templed asesu clir i adolygu’r data’n gyson ar draws yr holl raglenni. Bydd y canlyniad yn pennu awgrym ar gyfer ymyrryd.

Os awgrymir ymyrraeth ar gyfer Grŵp PMB penodol, gellir ymgymryd â dadansoddiad cyd-destunol pellach i greu darlun llawn o’r ddisgyblaeth.  Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • Trafodaethau â’r Deon Cysylltiol Addysg, Arweinwyr Addysg Ysgolion perthnasol a Chyfarwyddwyr Rhaglenni i ddeall cyd-destun y Grŵp PMB a’r rhaglenni cysylltiedig a lefel yr ymyrraeth a fyddai’n rhoi’r buddion mwyaf.
  • Dadansoddiad o ddata ychwanegol fel y’i nodir uchod e.e. Data perfformiad modiwlau ARQUE, asesiadau atodol, ymgysylltu gan fyfyrwyr, cwynion ac apeliadau.

Yn dilyn dadansoddiad o ddata allweddol gan y Gwasanaethau Ansawdd Addysg, nodir meysydd pwnc ar gyfer un o’r canlynol:

  • Dim ymyrraeth ffurfiol – gwelliant parhaus drwy Gynlluniau Gwella Rhaglen
  • Ymyrraeth ar lefel yr Ysgol – dan arweiniad Arweinydd Addysg yr Ysgol ac adroddir am gynnydd i Fforwm Addysg yr Ysgol yn ystod pob cyfarfod
  • Ymyrraeth ar lefel y Gyfadran – dan arweiniad y Deon Cysylltiol Addysg ac adroddir am gynnydd i Bwyllgor Addysg y Gyfadran yn ystod pob cyfarfod
  • Ymyrraeth ar lefel y Brifysgol – dan arweiniad y Dirprwy Is-ganghellor Addysg ac adroddir am gynnydd i Bwyllgor Addysg y Brifysgol

Ail-gymeradwyo rhaglenni’n gyfnodol

Ar ddiwedd pob pum mlynedd, ar yr amod bod perfformiad yn bodloni disgwyliadau drwy gydol y pum mlynedd, a bod dogfennaeth rhaglenni a modiwlau wedi’i diweddaru drwy welliant parhaus ac yn bodloni gofynion mewnol ac allanol, gan gynnwys adolygiad boddhaol gan Arholwr Allanol ac unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol, caiff rhaglenni eu hail-gymeradwyo’n awtomatig heb angen adolygiad pellach (Ymyrraeth Gwella Addysg neu Adolygiad Ansawdd gynt).

Gellir defnyddio proses Adolygu Ansawdd ffurfiol (gan gynnwys prosesau ar y cyd â chyrff allanol) pan fo hyn yn ofynnol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol allanol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am bryd y byddai angen ymyriadau ac am ddiben y broses yn yr Arweiniad ar Ymyriadau Gwella Addysg.

Dolenni Defnyddiol

Arweiniad i Gyfadrannau

Os oes ymholiadau gennych neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch: Quality-PolicyandGovernance@abertawe.ac.uk

[1] Byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r broses Adolygiad Blynyddol o Raglenni ac Adolygiad Ansawdd sydd eisoes yn bodoli (er y byddwn ni’n gwella rhai agweddau) ar gyfer partneriaethau (yn y DU ac yn rhyngwladol) yn y tymor canolig, ond byddwn ni’n addasu ac yn cyflwyno’r ymagwedd gwelliant parhaus gyda phartneriaid. Lle bydd angen, gellir defnyddio’r broses Adolygu Ansawdd i gefnogi rhaglenni wedi’u rheoleiddio neu’u hachredu yn unol â gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).

[2]Mae grwpiau data PMB wedi cael eu nodi gyda’r Cyfadrannau er mwyn darparu data ystyrlon islaw lefel CAH3, sy’n gallu cuddio materion allweddol, ond uwchlaw lefel y rhaglen unigol, sy’n gallu bod yn dameidiog o ganlyniad i niferoedd bach.

Adolygiad Blynyddol o Raglenni

Adolygiad Blynyddol o Raglenni