Mae ymagwedd gytbwys, gymesur, sy'n seiliedig ar risg Prifysgol Abertawe at sicrhau a gwella ansawdd yn seiliedig ar Gôd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac yn cyd-fynd yn llawn â Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau y DU a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Derbyniodd y Brifysgol dair canmoliaeth gan y broses Adolygiad Gwella Ansawdd ym mis Mai 2026:
Y ffordd systematig yr oedd y Brifysgol wedi rhoi prosiect Trawsnewid y Cwricwlwm ar waith ym mhob rhan o'r sefydliad. Mae hyn wedi sefydlu fframwaith cydlynol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer ailgynllunio pob rhaglen a addysgir, â'r nod o wella profiad dysgu cyffredinol y myfyrwyr.
Y ffordd y mae gwasanaethau proffesiynol, cydweithwyr academaidd a myfyrwyr y Brifysgol wedi gweithio mewn partneriaeth i wella profiad y myfyrwyr.
Mentrau cyflogadwyedd y Brifysgol sy'n cyfrannu at baratoi'r myfyrwyr yn well am yrfaoedd.
Yr adroddiad llawn: Adroddiad Canlyniad, mis Mai 2026 a Chynllun Gweithredu Adolygiad Gwella Ansawdd 2026.
Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch Astudiaeth achos: Rheoli Rhaglenni a Phortffolios ym Mhrifysgol Abertawe, fel enghraifft o ymagwedd lwyddiannus, ymatebol, sydd wedi'i chyfeirio gan ddata at reoli ei phortffolio academaidd. Mae'r Brifysgol hefyd wedi derbyn pum cymeradwyaeth gan y broses Adolygu Gwella Ansawdd ym mis Tachwedd 202 (adroddiad llawn a chynllun gweithredu: Adroddiad Canlyniadau, Rhagfyr 2020), a gafodd ei groesawu wrth ddilysu ymagwedd Prifysgol Abertawe at reoli ansawdd a safonau yn enwedig yn ystod y pandemig. Caiff rheoliadau a strwythur llywodraethu, ansawdd a safonau Prifysgol Abertawe eu rheoli drwy Bwyllgor Addysg y Brifysgol a'i is-bwyllgorau a byrddau cysylltiedig, gan gynnwys y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, y Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol a’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.