Mae’r Tîm Cyfathrebu, Rheoliadau a Chyhoeddiadau Digidol yn gyfrifol am oruchwylio, adolygu a datblygu rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol a sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu’n effeithiol i’r holl staff a myfyrwyr. Rydym yn datblygu adnoddau i staff a myfyrwyr, megis llawlyfrau, canllawiau a chodau ymarfer a’u cyhoeddi nhw ar dudalennau gwe’r Brifysgol a’r platfform digidol. Rydym yn gwella prosesau a strategaethau cyfathrebu’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn barhaus, er mwyn sicrhau bod staff a myfyrwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth y mae ei hangen arnynt yn hwylus.