GŴYL O SYNIADAU 2021

Ar ôl llwyddiant blynyddoedd blaenorol, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Gŵyl o Syniadau yn dychwelyd. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal Gŵyl o Syniadau 2021 ar-lein, ar y dyddiadau canlynol:

  • 14 Ebrill
  • 21 Ebrill
  • 28 Ebrill
  • 5 Mai

Rydym ar binnau i ddathlu ein partneriaid academaidd, diwydiannol a chymunedol, rhyngwladol drwy fideos, sgyrsiau, a phaneli dadlau! Yn ogystal, i gael diweddariadau dilynwch ein cyfrif Twitter @CompFoundry #GŵylFfowndri

MAE COFRESTRU AR AGOR NAWR!

Cofrestrwch ar Eventbrite am 1 tocyn i allu mynychu POB un o'r 4 diwrnod! Cofrestrwch YMA

RYDYM WRTH EIN BODD O GYHOEDDI EIN BOD YN CROESAWU SIARADWYR GWADD ANHYGOEL I'R ŴYL, DILYNWCH Y DDOLEN ISOD I DDARLLEN MWY AM EU STORI.

 

Gareth thomas

Gareth Thomas

Katie King

Katie King

Bobby Seagull

Bobby Seagull

Fonesig Inga Beale

Dame Inga Beale

Dros bedwar diwrnod yr Ŵyl byddwn yn arddangos yr ymchwil anhygoel a diddorol sydd wedi deillio o gysylltiadau a wnaed yn ystod oes y prosiect. Mae Cherish, dros y blynyddoedd, wedi ceisio deall anghenion pobl, rhoi pobl wrth wraidd arloesi a thaflu goleuni ar y gymuned, gan ddangos iddynt sut y gall technoleg newid y byd er gwell.

Yn ystod yr Ŵyl byddwn yn croesawu prosiectau megis; Sefydliad AWENTreftadaeth Ddigidol:Gwaith Copr yr Hafod a Bae Copr. Byddwn hefyd yn clywed gan academyddion Prifysgol Abertawe, Yr Athro Alan DixDr Matt Wall, Yr Athro Yvonne McDermott-ReesYr Athro Nuria Lorenzo-Dus a'r Athro Stuart Macdonald, a fydd yn mynd â ni ar daith drwy eu hymchwil a datgelu eu canfyddiadau.

cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu eisiau cymryd rhan, cysylltwch â ni!

Ebost: computationalfoundry@swansea.ac.uk

Robot
Amserlen lawn yn dod yn fuan!