Y TU MEWN: Y TU ALLAN. ADEILADU COFIANT O WALLGOFDAI SIROL

Aeth Dr Will Bryan, yr Athro Michael Coffey, Dr Elizabeth Gagen, yr Athro Mary Gagen a Dr Tim Kindberg ati i gydweithio ar Grant Escalator yn 2018. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys partneriaid allanol, y prosiect Oriel Science (www.orielscience.co.uk), a Martin Thomas o Fwrdd Iechyd y GIG ABMU/Prifysgol Bae Abertawe.

Ysbyty Cefn Coed yn Abertawe oedd un o'r sefydliadau preswyl olaf a oedd ar ôl yn y Deyrnas Unedig o'r cyfnod gwallgofdai pan gaeodd ei ddrysau yn 2018. Eglura'r Athro Gagen: "Roedd ein prosiect yn archwilio problem yn ymwneud â chau'r lle; sut i gael profiad o fywyd mewn ysbyty nad oedd yn bodoli'n ffisegol rhagor.

Ein hamcan oedd datblygu dulliau ymgollol, digidol, arloesol o gynnal a phrofi bywyd yn ysbyty Cefn Coed ar ôl iddo gau, a throsglwyddo straeon yr ysbyty i randdeiliaid."

Roedd y prosiect yn cyflwyno dau gwestiwn ymchwil: 1 - Sut gall rhyngwynebau digidol, arloesol hwyluso dychweliad at fannau arwyddocaol a darparu profiadau digidol i'r rheiny a oedd yno? 2 - A all llwyfannau digidol ein caniatáu i gyflwyno data cleifion yn ddiogel a chydbwyso gofynion preifatrwydd â buddion ymgysylltu â hanes iechyd meddwl?

Dyweda'r Athro Gagen: "Gwnaethom arbrofion gyda gofod wedi'i fapio â thafluniad i ail-greu agweddau ar brofiadau o Gefn Coed yn agos drwy 'Ystafell Ail-fyw' ddigidol. Oherwydd nad oedd Cefn Coed yn bodoli'n ffisegol wedi iddo gau, mewn gwirionedd dulliau digidol oedd yr unig ddatrysiad i gynnal y potensial mewn archif ffisegol, llafar, ysgrifenedig a gweledol o 90 mlynedd o ymarfer seiciatrig y Deyrnas Unedig. Yn ogystal, dechreuasom archifo cofnodion gweledol, llafar ac ysgrifenedig Cefn Coed yn ddigidol ac amlygu sawl man problemus i'w hymchwilio ymhellach."

 

Mae prif gyflawniadau'r prosiect yn cynnwys archwilio cofnodion 25 o gleifion cynnar o'r cyfnod rhwng 1930-1960. Roedd archwiliadau'r cofnodion hyn yn ffurfio rhan o arddangosfa 'Cofio Cefn Coed' a oedd yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Abertawe o fis Ionawr hyd Fehefin 2019. Adeiladwyd 'Ystafell Ail-fyw' Cefn Coed fis Ionawr 2019 ac mae'n cael ei chynnal fel rhan o'r arddangosfa Cofio Cefn Coed yn Amgueddfa Abertawe.

Roedd y gosodiad digidol hwn yn darparu methodoleg ar sail arteffactau y gallai ymwelwyr yr arddangosfa lywio rhwng llefydd, safbwyntiau a chyfnodau yng Nghefn Coed. Gellir gweld ffilmiau ein Hystafell Ail-fyw yma (y cwbl gan Dr Tim Kindberg, sylfaenydd y cwmni technoleg ddigidol, matter II media https://matter2media.com ).

Coridorau Cefn Coed.

Y Bachgen yn yr Islawr.

"Arferent ddawnsio oddi tano", Pêl Ddisgo Cefn Coed.

Peunod

Fideo treigl amser o Gefn Coed drwy gyfres o gyfnodau 24 awr lle mae 'tŵr dŵr' canolog Cefn Coed yn weladwy. Gallwch weld y fideo treigl amser yma.

Mae'r adborth mewn perthynas â'r ystafell ail-fyw yn hynod gadarnhaol ac yn datgan teimladau pobl bod yr Ystafell Ail-fyw yn bwynt cysylltiad â'r ysbyty. Gweler rhai enghreifftiau o adborth isod: "Roeddwn i'n credu bod y ffilm yn hynod ddiddorol, oherwydd nad oeddwn erioed wedi bod yno. Roedd dau o'm perthnasau yno (yn yr ysbyty) ond fûm i erioed yn ymweld â nhw er fy mod yn byw yn agos iawn. Roeddwn yn blentyn ar y pryd. Mae'n edifar gennyf na welais ef."

Mae tîm y prosiect yn rhagweld dau lif gwaith ymchwil yn y dyfodol, ac yn cynnal trafodaethau gyda grŵp Treftadaeth Cefn Coed/ABMU ehangach ac ymchwilwyr o COAH mewn perthynas â'r rhain.