Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i fyfyriwr newydd sy’n cyrraedd Abertawe neu beth yr hoffech chi fod wedi’i wybod? 

Gofynnwyd y cwestiynau hynny i’n cyn-fyfyrwyr. Gwnaethoch chi roi cyngor gwych a llawer o awgrymiadau defnyddiol i ni ar sut i wneud ffrindiau a manteisio i’r eithaf ar eich amser gyda ni, yn ogystal ag ambell berl o ddoethineb amhrisiadwy!

Dyma rai o’r gorau:

  • Manteisiwch ar bob cyfle, fyddwch chi byth yn cael yr amser hwn eto. - Linda, Dosbarth 2008
  • Gwnewch ymdrech i ddod i adnabod pobl yn y fflatiau o'ch cwmpas nid yn unig y rhai yn eich fflat chi ac ewch i gynifer o ddigwyddiadau mawr ag y gallwch chi. Doeddwn i ddim yn gwybod am Varsity yn fy mlwyddyn gyntaf a chollais i’r cyfle i gymryd rhan. Roeddwn i’n siomedig iawn pan sylweddolais i mai dyma'r digwyddiad mwyaf yn y calendr! Gwnes i gystadlu bob blwyddyn wedi hynny! - Emily, Dosbarth 2012
  • Byddwn i wedi dwlu gwybod pa mor gyflym y byddai'r 3 blynedd yn hedfan ac i fwynhau pob eiliad. Ewch i'r traeth mor aml ag y gallwch chi am farbeciws gyda'r hwyr a mwynhau pob eiliad ohono. Mae amser wir yn hedfan. Mae Abertawe'n lle hardd ac anhygoel a newidiodd fy mywyd yn llwyr o ganlyniad i ddod yma. Byddwch yn barod i gwympo mewn cariad â'r ddinas a fyddwch chi byth eisiau gadael. - Sue, Dosbarth 1984
  • Y rhai mentrus sy’n llwyddo mewn bywyd. - Stephen, Dosbarth 1985
  • Mae'r llyfrgell yn cynnig ystod o weithdai i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Mae staff y llyfrgell yn gyfeillgar iawn ac mae’n hawdd mynd atynt. Efallai fod Llyfrgell Singleton yn edrych fel drysfa, ond bydd y staff yn eich rhoi ar y trywydd cywir. - Peter, Dosbarth 2019

"Daliwch ati! Ac os bydd popeth arall yn methu? Ewch i'r traeth."

Myfyrwyr ar y traeth
  • Os yw hi'n heulog a does dim darlith gennych chi? Ewch i'r traeth! Eisiau ychydig o awyr iach? Ewch i'r traeth. Hiraeth am gartref? Ewch am dro ar hyd y traeth. Pen mawr? Ewch i loncian ar hyd y traeth! Adolygu? Ewch i eistedd ar y traeth. Ar y dechrau, gall y Brifysgol deimlo'n llethol. Efallai y byddwch chi'n meddwl na fyddwch byth yn goroesi ac yn dymuno bod gartref lle mae popeth yn gyfarwydd. Byddwch yn meddwl sut yn y byd galla i ymgartrefu yma a gwneud ffrindiau newydd. Sut byddwch chi'n ymdopi gyda choginio dros eich hun. Beth byddwch chi'n ei wneud os bydd rhywbeth yn torri. Efallai y byddwch yn teimlo'n bell o gartref. Ond byddwch yn goroesi, gallaf addo hynny i chi, a byddwch yn edrych yn ôl ar yr amser hwn fel un o brofiadau gorau eich bywyd. Byddwch yn dechrau fel un person - yn llawn egni ond yn ddibrofiad - ac yn dod allan â sgiliau bywyd, atgofion lu a ffrindiau gydol oes. Heb sôn am radd o'r brifysgol orau yn y byd – yn fy marn i, beth bynnag. Beth allai fod yn well? Daliwch ati! Dywedwch ie i (bron) bob antur. Ewch allan gyda'r bobl newydd rydych yn byw gyda nhw hyd yn oed os ydych chi eisiau aros gartref a ffonio adref. Gwnewch yn siŵr bod gennych bob amser nwdls 8c yn y tŷ. Prynwch ffrog ffansi yn y sêl. Daliwch ati! Ac os bydd popeth arall yn methu? Ewch i'r traeth. Jacqui, Dosbarth 2007
  • Ceisiwch gadw ar ben yr holl waith, byddwn i’n argymell trin hyn fel wythnos ysgol, gwneud nodiadau, gweithio ar asesiadau yn yr wythnos a chadw’r penwythnos am amser hamdden i osgoi gor-wneud hi...a rhagor o amser ar gyfer yr aseiniadau os bydd angen. Er hynny, mae hyn yn haws dweud na gwneud. - Charlotte, Dosbarth 2021


"Bydd tywod bob amser yn eich dillad, hyd yn oed os na fyddwch wedi bod i'r traeth y diwrnod hwnnw."

  • Cofiwch drin pawb â pharch. Os bydd rhywun yn eich gwneud yn grac, byddwch yn bwyllog a cheisiwch ddatrys y sefyllfa yn hytrach na'i gwaethygu. Gwyliwch beth rydych yn ei ysgrifennu ar y cyfryngau cymdeithasol mewn sefyllfaoedd fel hyn. - Gareth, Dosbarth 2015
  • Gofalwch amdanoch chi eich hun. Gwnaeth problemau iechyd meddwl daenu cysgod enfawr dros fy nhrydedd flwyddyn ac yn y pen draw, cerddais i ffwrdd â gradd is na'r un roeddwn wedi'i dymuno o ganlyniad i hyn. Y peth mwyaf rwy'n edifarhau yn ei gylch yw peidio â gofyn am help yn gynt. Byddwch yn agored gyda'ch ffrindiau, siaradwch am eich problemau, defnyddiwch wasanaethau lles y brifysgol, bwytewch yn dda, cysgwch yn dda a byddwch actif. Mwynhewch - bydd e'n wych - Georgia, Dosbarth 2013
  • Rwy'n difaru nad oeddwn i'n gwybod am yr holl gyfleoedd a oedd ar gael i mi yn y brifysgol! Mae'n anodd dod o hyd i amser i wirfoddoli a manteisio ar gyfleoedd pan fyddwch yn gweithio. Mae'n amser perffaith yn y brifysgol i roi cynnig ar bethau newydd a meddwl am yr hyn rydych am ei wneud yn hwyrach mewn bywyd. - Oliver, Dosbarth 2017
  • Mynnwch docyn bws! Mae llawer o leoedd i fynd i'w gweld, a bydd tocyn bws yn datgloi gwasanaethau teithio cyflym rhwng y campysau. - Alex, Dosbarth 2019
  • Peidiwch â rhoi amser caled i chi'ch hun. Trueni na fyddai rhywun wedi dweud hyn wrthyf ar ôl i mi dreulio llawer gormod o amser yn bod yn hunanymwybodol am bopeth. Byddwch yn garedig/amyneddgar wrth eich hun! - David, Dosbarth 2016

"Mynnwch docyn bws! Mae llawer o leoedd i fynd i'w gweld, a bydd tocyn bws yn datgloi gwasanaethau teithio cyflym rhwng y campysau." 

Myfyriwr ar y bws
  • Mae pawb yn yr un cwch ac i ffwrdd o adref am y tro cyntaf, felly bydd pobl yn gwerthfawrogi os byddwch yn curo ar ddrws ac yn dweud helô. Hyd yn oed os yw hynny dim ond i rannu eich problemau wrth gysylltu â'r Wifi neu gwyno am y pandemig, bydd pobl yn gwerthfawrogi'r ymdrech!  Os bydd popeth arall yn methu, byrbrydau yw'r ffordd i galon 95% o bobl. - Emma,Dosbarth 2013
  • Dywedwch ie! A chroesawu’r cyfle i gael profiadau newydd. Mae llu o gyfleoedd ar gael yn Abertawe. Rwy'n adnabod llawer o bobl a gafodd y dewis i astudio dramor (hyd yn oed os nad oeddent yn astudio gradd iaith) ac sy’n difaru peidio â manteisio ar y cyfle. Os nad ydych am adael y wlad am flwyddyn, mae lleoliadau byrrach dros yr haf ar gael hefyd. Dydw i ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn gwybod am hyn - byddwn yn awgrymu galw heibio'r Swyddfa Ryngwladol i weld beth sydd ganddynt i'w gynnig. - Cara, Dosbarth 2016
  • Araf bach mae mynd ymhell - mae hyn yn berthnasol i astudio a chael hwyl. Bydd y rhai sy'n dal i sefyll ar y diwedd yn gweld yr haul yn codi ar y traeth! Mae hyn yn bendant yn rhywbeth y mae'n rhaid ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe! - Kate 
  • Efallai ei bod hi'n ddiflas ond ceisiwch ysgrifennu nodiadau byr ar ôl pob darlith, byddwch yn falch o hyn pan fyddwch yn adolygu ar gyfer arholiadau! - Lauren, myfyriwr
  • Mae'n bwrw glaw'n aml, felly ceisio ei fwynhau yn hytrach na'i gasáu. - Gareth, Dosbarth 1996
  • Mae'n iawn cymryd siawns a methu ar hyd y ffordd. Dysgu o'n camgymeriadau sy'n ein helpu i ddysgu a thyfu. Byddwch yn barod i newid a pheidiwch â gadael i’ch credoau hunangyfyngol eich dal yn ôl. Ewch amdani! - Angela, Dosbarth 1999

"Dywedwch ie! A chroesawu’r cyfle i gael profiadau newydd"

  • Mae Prifysgol Abertawe, ac Abertawe'n gyffredinol, yn lleoedd hynod groesawgar tuag at bobl o bob diwylliant a chefndir. Mae'r brifysgol a'r ddinas yn amrywiol iawn ac yn lleoedd gwych i fyw (naill ai ar y campws neu mewn tai lleol); gall pawb ddod o hyd i gartref yn Abertawe! Ewch i Ffair y Glas i weld yr holl glybiau chwaraeon a chymdeithasau gwych sydd ar gynnig; chwaraeon o hoci i quidditch, a chymdeithasau o'r gyfraith i my little pony - mae rhywbeth i bawb! Mae hi bendant yn werth creu taenlen Excel ar gyfer cyllidebu - cyfrifwch faint o arian a gewch o unrhyw grantiau cynhaliaeth neu fwrsariaethau rydych wedi'u derbyn ar gyfer eich astudiaethau a rhannwch hyn yn ôl nifer yr wythnosau y byddwch yn y brifysgol. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo faint y dylech fod yn ei wario bob wythnos a bydd yn eich helpu i gyfrifo a ydych chi’n gwario gormod ar eich gweithgareddau cymdeithasol (megis nosweithiau allan, bwyta allan neu chwaraeon a chymdeithasau). - William, Dosbarth 2013
  • Peidiwch byth â thanbrisio pŵer dysgu gan eich cyfoedion. Nid cystadleuaeth yw eich cyd-fyfyrwyr, felly gallwch anghofio am hynny'n syth - mae bod yn hael wrth rannu gwybodaeth a chefnogi eich gilydd yn eich helpu i ddysgu'n well, ond mae hefyd yn golygu eich bod yn meithrin cyfeillgarwch cadarn am oes. Mae dysgu'n hwyl wrth ei wneud gyda'ch gilydd. - Natalie, Dosbarth 2013
  • Er mwyn gofalu am eich iechyd, eich dyfodol a'ch graddau, gofynnwch am gymorth. Does neb yma i'ch beirniadu. A does neb yn disgwyl i chi fod yn berffaith. - Petra, Dosbarth 2016
  • Er bod Prifysgol Abertawe'n cynnig sylfaen academaidd gadarn ac, wrth gwrs, dyna eich prif reswm dros adael eich gwlad a dod yma yn y lle cyntaf, mae mwy i fywyd yn y brifysgol na’r ochr academaidd yn unig. Ym Mhrifysgol Abertawe, cewch gyfle i doddi, chwyldroi ac esblygu. Byddwch yn astudio gyda rhai o'r meddylwyr mwyaf disglair o bob cwr o’r byd a hefyd gyda rhai o'r cymunedau mwyaf cysylltiedig. Dyma fydd eich cyfle i ddod allan o'ch cragen a gwireddu eich potensial. - Michael, Dosbarth 2017

"Dyma fydd eich cyfle i ddod allan o'ch cragen a gwireddu eich potensial."

Myfyrwyr â chaiacau
  •  Byddwch yn dadlau gyda'r rhai sy'n rhannu tŷ â chi ond mae hynny'n iawn. Peidiwch â chwarae tric arnynt drwy roi Vicks yn sebon y gawod! - Ross
  • Cymerwch ran yn y gymuned leol, gwirfoddolwch, siaradwch â'ch cymdogion os ydych yn byw oddi ar y campws, ewch i ardaloedd o'r ddinas nad ydynt yn boblogaidd gan fyfyrwyr. Peidiwch â byw yn swigen y myfyrwyr yn unig a byddwch yn cael amser llawer mwy cyfoethog yn y Brifysgol orau yn y byd! - Adrian, Dosbarth 1991
  • Parchwch bawb - myfyrwyr eraill (o ba gefndiroedd a gwledydd bynnag y dônt) a phreswylwyr lleol Abertawe y byddwch yn cwrdd â nhw. - Tim, Dosbarth 1997
  • Mwyaf o ymdrech rydych yn ei gwneud, mwyaf byddwch ar eich ennill . Mae hyn yn berthnasol i bethau academaidd ac allgyrsiol fel ei gilydd. Cadwch mewn cysylltiad â’ch cwrs, eich athrawon a'ch tiwtoriaid. Ymunwch â chlybiau a gwnewch gysylltiadau, dewch o hyd i'r cynlluniau ychwanegol a gynigir gan y brifysgol ac ymunwch â nhw. Eich profiad chi ydyw yn y brifysgol. - Scott
  • Mae llawer o grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol. Os oes gennych hobi neu ffordd o fyw benodol, mae'n debygol bod grŵp i chi ymuno ag ef. Er enghraifft, mae grŵp feganaidd gweithgar iawn yn Abertawe ar Facebook sy'n rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau, bwytai, siopau cludfwyd a siopau.  - Natasha, Dosbarth 2015
  • Beth am wirfoddoli fel cyflwynydd ar Xtreme Radio? Bydd yn helpu i wella eich sgiliau siarad cyhoeddus, a gallwch elwa arno yn hwyrach yn eich bywyd. Cofiwch astudio'n galed, ond cofiwch wneud y pethau rydych yn eu mwynhau hefyd. Ac wrth gwrs, beth bynnag rydych chi'n ei wneud, pan fyddwch yn cael eich cerdyn AU (os yw hynny'n dal i fodoli), gwnewch yn siŵr nad yw eich llun yn eich dangos yn hanner noeth. Byddwch yn edrych yn ôl ac yn sylweddoli eich bod yn edrych yn dwp iawn. - Joe, Dosbarth 2010
  • Yn gyntaf, mae pawb yn teimlo'n nerfus am ddechrau yn y brifysgol. Mae'n newid mawr i'ch byd a gall fod yn anodd, ond byddwch yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn fel un o'r amserau gorau yn eich bywyd - felly ymlaciwch, ymgartrefwch a mwynhewch y daith. Yn ail, mae'r darlithwyr yn gewri yn eu meysydd, cymerwch yr amser i siarad â nhw a gofynnwch gwestiynau iddynt. Po fwyaf rhagweithiol rydych chi, mwyaf y byddwch yn elwa o'r profiad. Mwynhewch a chymerwch ofal! D.S. Cofiwch fynd i Sin City.  - Sophie, Dosbarth 2016
  • Arhoswch mewn neuadd breswyl. Mae gennych weddill eich bywyd i fyw mewn tŷ ond ni fyddwch yn debygol o fyw mewn cymuned o bobl tua’r un oed â chi nes i chi fod mewn cartref gofal! - Cara, Dosbarth 1981

"Mae'r darlithwyr yn gewri yn eu meysydd, cymerwch yr amser i siarad â nhw a gofynnwch gwestiynau iddynt. Po fwyaf rhagweithiol rydych chi, mwyaf y byddwch yn elwa o'r profiad."

darlithydd yn helpu myfyrwyr
  • Mae Abertawe'n teimlo fel cartref bron yn syth. Ewch i bobman a rhowch gynnig ar bopeth. Ni fydd Abertawe'n eich siomi. Mae'n ddinas sy'n llawn hanes a diwylliant. Y ffordd orau o'i darganfod a dod yn rhan ohoni, yw ei phrofi. - Becky, Dosbarth 2015
  • Byddwn bendant yn argymell treulio blwyddyn mewn diwydiant! Enillais lawer o brofiad gan fy ngalluogi i gael swydd raddedig ac roeddwn i’n llawer mwy hyderus wrth ddechrau ar y swydd. - Chloe, Dosbarth 2020
  • Defnyddiwch eich Mentor Academaidd Personol (PAM), maen nhw yno i'ch cefnogi drwy faterion sy'n ymwneud â'ch cwrs a'ch materion personol. Datblygais berthynas wych â fy Mentor, a gwnaeth fy helpu drwy rai o'r adegau anoddaf yn y brifysgol. Lluniwch gynllun gwaith o ddechrau eich cwrs. Bydd trefnu eich amser astudio'n eich helpu i gadw ar ben aseiniadau ac yn sicrhau nad ydych yn gofidio gormod am ddyddiadau cau. Hefyd, bydd yn eich helpu i gynnwys seibiannau yn eich amserlen waith i sicrhau bod gennych ddigon o amser hamdden i’w dreulio gyda ffrindiau a gwneud yn fawr o'r llwyth o bethau eraill sydd gan y brifysgol a'r ddinas i'w cynnig. - Katie, Dosbarth 2021
  • Peidiwch byth ag edrych ar eich traed heblaw pan fyddwch yn torri ewinedd eich traed. Gadewch i'r parti ddod atoch chi. Canwch y gitâr yn aml. Astudiwch rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, rhywbeth rydych chi’n dwlu arno. Anghofiwch am y gweddill. - Keith, Dosbarth 1972
  • Paciwch y pethau hanfodol yn olaf! Ar ôl taith hir, bydd angen papur tŷ bach, sebon a thywel ar frig y blwch neu’r bag rydych wedi'i bacio. Byddai’n ddefnyddiol hefyd os mai mwg a bagiau te yw’r eitemau nesaf sydd wrth law. - Helen, Dosbarth 2011

 "Ni fydd Abertawe'n eich siomi. Mae'n ddinas sy'n llawn hanes a diwylliant"