Gofynnon ni, ac ateboch chi!

Dyma rai o'n ffefrynnau;

"Dw i o hyd yn meddwl am Brifysgol Abertawe fel cartref, a bydda i bob amser yn meddwl hynny. Dyma le gwnes i ffrindiau am oes. Dyma le datblygais i gariad at addysgu, diolch i angerdd fy athrawon a'm darlithwyr. Heb os, fyddwn i ddim lle'r ydw i heddiw heb Brifysgol Abertawe."

"Gwnaeth y darlithwyr ar y rhaglen fy ysbrydoli i i ddechrau gyrfa newydd ym maes ymchwil a darlithio, a dyna le rydw i erbyn hyn. Gwnaeth Abertawe roi cyfle i mi wneud lleoliad diwydiannol yn GlaxoSmithKline, ac yna'r hyder i fynd ymlaen i astudio PhD a bod yn academydd. Felly, mewn gwirionedd, nid Abertawe ei hun sydd wedi fy helpu i fod lle'r ydw i heddiw, ond y darlithwyr gwych a oedd â ffydd ynof i."

"Mae Prifysgol Abertawe'n bendant wedi fy helpu i gyrraedd lle'r ydw i heddiw oherwydd cwrddais i â'm gŵr i yno. Roedd e'n fyfyriwr Ffiseg yn ei drydedd flwyddyn, ac roeddwn i yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio Daearyddiaeth ym 1985. Dechreuon ni fynd allan o fewn diwrnod o gwrdd, a dyweddïon ni pan orffennais i fy ngradd, gan briodi pan orffennais i fy nghwrs TAR yn haf 1989. Cyn bo hir, byddwn ni'n dathlu 33ain pen-blwydd ein priodas gyda'n 4 mab. Mae ein 3ydd mab wedi dilyn ein holion troed drwy astudio yn Abertawe. Ac fel ei dad, mae wedi cwympo am gyd-fyfyrwraig, sy'n digwydd bod yn efell unfath o Gymru fel fi. Efallai y bydd hanes yn ailadrodd ar eu cyfer nhw hefyd."

"Newidiodd Adran Addysg Prifysgol Abertawe fy mywyd, a gwnaeth fy ngalluogi i gefnogi eraill i newid eu bywydau. Diolch!"

“Pan gyflwynais gais i Brifysgol Abertawe, roeddwn yn fam ifanc i 2, yn brwydro i greu bywyd gwell i mi a'm teulu. Fyddwn i byth wedi gallu cwblhau fy ngradd mewn unrhyw brifysgol arall! Gwnaeth staff Abertawe fy helpu nid yn unig yn academaidd ond yn ariannol ac yn emosiynol hefyd. Pan oeddwn i yno, roeddwn i'n teimlo fel rhan o deulu, rhan o rywbeth mwy. Graddiais yn 2013 a dechrau ar fy ngyrfa ddelfrydol o fod yn nyrs bediatrig, ac rwy'n dal i ddwlu arni. Datblygais i fod yn fodel rôl i'm plant, i'r fath raddau mae fy mab newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf o radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe! Rydym yn dŷ Prifysgol Abertawe balch"

"Rhoddodd Prifysgol Abertawe'r annibyniaeth a'r hyder i mi wynebu'r byd hwn ar fy mhen fy hun. Gwnaeth fy niddordeb mewn Eifftoleg a Hanes yr Henfyd ddatblygu, ac es i gam ymhellach drwy astudio am radd Meistr yn y Clasuron. Rwyf bellach yn hyfforddi i fod yn athro gyda'r bwriad o deithio i Asia ac efallai ledled y byd. Agorwyd y drws hwn i mi gan Brifysgol Abertawe. Des i o ddim a bellach mae'r byd i gyd o'm blaen i.

Mae fy mhroblemau iechyd meddwl wedi gwella'n sylweddol ers fy arddegau ac roedd hyn yn bennaf oherwydd y gefnogaeth a dderbyniais i gan Brifysgol Abertawe. Gwnes i ffrindiau gydol oes yn Abertawe a byddaf yn gweld 3 ohonynt yn priodi eleni.

Abertawe yw'r ddinas rwy'n dychwelyd iddi amlaf gan obeithio, unwaith bydd fy niwrnodau teithio drosodd, y byddaf yn ymgartrefu yn ardal hardd Brynmill Abertawe pan fydd hi'n amser i mi arafu. Mae sefyll ar blatfform gorsaf drenau Abertawe'n dal i  brocio fy emosiynau ac wrth i'm llygaid lenwi â dagrau tawel, mae'r atgofion yn llifo yn ôl ac rwy'n teimlo fy mod wedi cyrraedd adref bob tro rwy'n dod oddi ar y trên.  Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar am fy amser yn Abertawe - gwnaeth fy mharatoi am holl brofiadau bywyd ac mae wedi fy ysbrydoli i fyw fy mywyd i'r eithaf ac am hynny byddaf bob amser yn hynod ddiolchgar!"

“Prifysgol Abertawe oedd fy sefydliad academaidd cyntaf pan ddes i i'r DU. Gwnaeth osod y sylfeini ar gyfer cynifer o bethau rwyf wedi mynd ymlaen i'w gwneud ac mae wedi gosod safon sydd wedi dod yn bwynt cyfeirio cyson lle bynnag yr ydw i.

Cefais gymorth a chroeso mawr. Roedd y staff yn gymwynasgar iawn a llawn cydymdeimlad. Weithiau, dim ond gwên Gymreig oedd ei hangen i wneud i mi deimlo'n dda. 

Bob cam o'r ffordd, gofynnais am arweiniad a chefais arweiniad, gwnaethant fy herio a'm gwthio i fod y gorau y gallaf fod. Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ei heffaith".

"Gadewais y Llu Awyr Brenhinol yn 2001 a mynd ymlaen yn syth i'r rhaglen BSc (Anrh.) Biocemeg ym mis Medi 2001. Helpodd darlithwyr Abertawe fi i ymgartrefu'n syth a'm helpu i newid fy ffordd filwrol o feddwl i arddull fwy beirniadol ac academaidd, ac rwy'n hynod ddiolchgar am hynny.

Gwnaeth Abertawe roi cyfle i mi wneud lleoliad diwydiannol yn GlaxoSmithKline, ac yna'r hyder i fynd ymlaen i astudio PhD a bod yn academydd. Felly, mewn gwirionedd, nid Abertawe ei hun sydd wedi fy helpu i fod lle'r ydw i heddiw, ond y darlithwyr gwych a oedd â ffydd ynof i. Roedden nhw’n credu y gallai cyn-aelod o'r Lluoedd Arfog o ystâd cyngor yng Nghasnewydd lwyddo a gwnaethant yn siŵr fy mod i’n gwybod hynny".