Mae rhwydwaith cyn-fyfyrwyr Abertawe yn cynnwys 165,000 o raddedigion ledled y byd! Rydym wrth ein boddau bod gennym gymuned ryngwladol mor eang ac rydym mor falch o holl raddedigion Abertawe. Er bod llawer ohonoch wedi gadael Abertawe ar ôl i chi raddio, bydd ychydig bach o Gymru (a'r Gymraeg) yn eich calon am byth – hyd yn oed os nad yw'n fwy na 'Shwmae!'  

Er mwyn dathlu cyfnod yr ŵyl, rydym wedi llunio rhestr o'n hoff ymadroddion Cymraeg sy'n ymwneud â gwyliau a'r cyfieithiadau Saesneg. A fyddwch yn rhoi cynnig ar ddefnyddio'r ymadroddion Cymraeg hyn dros y Nadolig?  

SaesnegCymraegYnganiad ffonetig
Merry Christmas Nadolig Llawen Na-doh-lig lla-when
Father Christmas Sion Corn Shaun Korr-n
Snow Man Dyn Eira Dean Eye-rah
Star Seren Se-ren
Reindeer Carw Kah-roo
Tree Coeden Coy-den
Gift Rhodd Rho-dd
Stocking Hosan Hos-ann
Holly Celyn Keh-lynn
Happy New Year Blwyddyn Newydd Dda Bl-oi-ddin New-idd Dd-ah
Cheers Iechyd da! ya-key da

Rydyn ni hefyd wedi llunio'r rhestr hon o negeseuon dathlu o bob cwr o'r byd er mwyn i chi allu dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’ch cyd-fyfyrwyr. Os byddwch chi'n rhoi cynnig ar yr ymadroddion Nadoligaidd hyn, bydden ni wrth ein boddau pe baech chi'n eu rhannu â ni drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol!

Nadolig Llawen