Bathodyn tîm pêl-droed Cymru

Mae sawl ffordd o fod yn Gymro neu'n Gymraes

Gyda Chwpan y Byd yn cychwyn yn fuan, rydyn ni'n falch iawn ac yn llawn cyffro i weld Cymru yn y twrnament am y tro cyntaf ers 1958! I ddathlu, rydyn ni wedi creu'r rhestr isod o ymadroddion chwaraeon Cymraeg, a'r ynganiad ffonetig, er mwyn i chi gefnogi Cymru gyda ni!

Os ydych chi'n rhoi cynnig ar unrhyw un o'r ymadroddion Cymraeg hyn, anfonwch fideo atom ac efallai y byddwn yn ei rannu ar ein cyfryngau cymdeithasol!

SaesnegCymraegYnganiad ffonetig
Good luck Wales  Pob lwc Cymru Paw-b l-ook come-ree
Come on, Wales!  Ymlaen, Cymru! Uh-mm-line come-ree
The red wall  Y wal goch  Uh waal goch
Still here  Yma o hyd Uh-ma o heed
Long live Wales Cymru am Byth Come-ree am bith
Man of the match Dyn y gêm Deen uh geem
Come on boys Amdani bois  Am-dan-ee boy-ss
Goal Gôl G-oa-l

 A fyddwch chi'n cynnal neu'n mynd i barti gwylio? Byddem ni wrth ein boddau'n gweld eich lluniau a'ch fideos! Rhannwch y rhain, a'ch atgofion chwaraeon o Abertawe, gyda ni yn y cyfryngau cymdeithasol.

Cyflwyno eich fideo