Gwnaeth Peter Jones, Eric Reynolds a Mike West gwrdd pan oedden nhw'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe ym 1964. Gyda'i gilydd, gwnaethant greu'r weledigaeth a fyddai'n arwain at sefydlu Discovery SVS, gwasanaeth gwirfoddoli myfyrwyr y Brifysgol.
Roedd Peter yn anffodus i gael diagnosis o lid y pendics yn ei flwyddyn gyntaf ond roedd ymyl arian i'r cwmwl hwn - wrth iddo siarad â chleifion eraill yn Ysbyty Cyffredinol Abertawe, daeth yn ymwybodol o'r diddordeb a oedd gan bobl yn eu prifysgol leol, a'u chwilfrydedd i wybod beth yn union roedd myfyrwyr yn ei wneud. Yn fuan wedi hynny, daeth Mike yn ymwybodol o ddiddordeb tebyg gan gleifion wrth iddo ef gael triniaeth am gartilag ei ben-glin yn yr ysbyty. Dyna pryd sylweddolodd Mike, Peter ac Eric fod gan bobl leol feddwl mawr o’u prifysgol ac, fel y dywedodd Peter: 'Penderfynon ni ein bod am roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol.'
Gofynnodd y tri ffrind am help Graham Chadwick neu'r 'Tad Chad' fel yr oedd yn fwy adnabyddus yn ei rôl fel Caplan Prifysgol Abertawe ar y pryd, er mwyn cryfhau eu syniad am gynnig gwasanaeth gwirfoddoli. Roedd y Tad Chad wedi cael gyrfa anhygoel a byddai ei brofiad a’i enw da’n gymorth mawr wrth sefydlu gwasanaeth gwirfoddoli. Meddai Peter: "Cafodd y broblem o sut i ddechrau arni a chael arian ei datrys drwy ofyn i'r Tad Chad fod yn ‘gynrychiolydd parchus’, rhywun fyddai'n gallu delio â’r awdurdodau lleol a fyddai siŵr o fod wedi dangos y drws i dri myfyriwr ifanc."
Rhoddodd y Tad Chad gymorth amhrisiadwy, yn cyd-drafod â'r cyngor a busnesau lleol a cheisio cyllid am gyfarpar a deunyddiau, tra roedd Mike, Peter ac Eric yn gwneud y gwaith ymarferol sef paentio a phapuro i ddechrau.
Roedd cleient cyntaf y myfyrwyr, Gina Wilson, yn dipyn o her ac roedd hi'n ddrwgdybus i ddechrau o fwriadau'r tri chyfaill. Fodd bynnag, wrth iddynt dreulio amser yn ei helpu ac yn trawsnewid ei chartref, daethant i gyd yn ffrindiau ac fel y dywedodd Peter, 'daethon ni i feddwl am Gina fel ffrind annwyl’.
Roedd Discovery SVS wedi dechrau a thros dymor yr haf, gwnaeth y tîm recriwtio rhagor o wirfoddolwyr, gan ychwanegu garddio at y gwasanaethau roeddent yn eu cynnig.
Aeth pethau o nerth i nerth yn ail flwyddyn y triawd, pan lansiodd Mike, Peter ac Eric ymgyrch i recriwtio gwirfoddolwyr newydd o blith y myfyrwyr. Daeth tua chant o fyfyrwyr i gyfarfod yn ystod Wythnos y Glas a thua'r un pryd, cafodd SVS hwb ariannol drwy rodd o £800 gan y Pwyllgor Rag, ar ôl cael pum punt yn y flwyddyn gyntaf.
Erbyn canol tymor yr hydref, 1966, roedd gan SVS tuag 20 tîm yn cynnig gwasanaethau yn y gymuned - cyflawniad aruthrol. Gwnaeth aelodau SVS gyfraniad allweddol hefyd - gan greu llawer o atgofion ar yr un pryd - at godi arian ar gyfer achosion da yn ystod Wythnos Rag.
Wrth i SVS ffynnu, roedd Mike, Peter ac Eric yn dod i ddiwedd eu hamser yn y Brifysgol, a daeth hi'n amlwg bod angen cydlynu pwrpasol ar y sefydliad, felly ysgwyddwyd y rôl hon gan eu cyd-fyfyrwyr, Sue Ridout a Sue Secker. Roedd myfyriwr arall, Steve Knott, a ddaeth i'r cyfarfod yn ystod Wythnos y Glas ac a oedd yn dipyn o 'ddynamo dynol', yn allweddol wrth ennyn brwdfrydedd a sicrhau llwyddiant parhaus SVS ar ôl i'r sylfaenwyr raddio.
Rwy'n gwybod bod Peter ac Eric yn teimlo'n ddiolchgar iawn i amrywiaeth o sefydliadau a alluogodd Discovery SVS i gynnal ei weithgareddau cynnar, yn eu plith cynghorwyr lleol, swyddogion yr awdurdodau lleol ac asiantaethau llywodraeth leol. Roedd cefnogaeth Undeb y Myfyrwyr hefyd yn hollbwysig wrth ddenu cymorth ariannol ac anogaeth pellach.
A rhaid cofio, wrth gwrs, am yr unigolion a fu mor allweddol wrth sefydlu Discovery SVS, sef: Graham Chadwick, ' y Tad Chad' a Dr Vivian J Phillips, aelod o staff y Brifysgol a Thiwtor Preswyl yn Neuadd Lewis Jones yn ystod y chwedegau, a helpodd Mike, Peter ac Eric i gael lleoedd i fyw yn neuaddau'r Brifysgol, gan sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i recriwtio aelodau newydd i'r achos.
Mae Mike, Peter ac Eric wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd amrywiol. Ar ôl iddo raddio ym 1966 â BA Anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth, treuliodd Peter amser yn Ysgol Economeg Llundain, bu'n gweithio ym Mhrifysgol Aberdeen ac ymgartrefodd yn y pen draw yn yr Adran Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Reading. Graddiodd Eric â gradd mewn Ffrangeg ac Eidaleg ym 1968 a bu'n bennaeth sawl ysgol. Byddai hefyd yn teithio gyda'i wraig i leoliadau tramor amrywiol i recriwtio myfyrwyr a bu'n rheoli cangen yn Ffrainc o ysgol breswyl flaenllaw i ferched cyn iddo ymddeol. Graddiodd Mike ym 1967 â BA Anrhydedd mewn Economeg ac ef oedd y myfyriwr graddedig cyntaf i gael ei gyflogi gan Rank Xerox. Aeth ymlaen i weithio mewn rolau marchnata yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia ac mae wedi rhedeg cwmni ymgynghori gyda'i wraig Awstralaidd, Lee Ann, am y 35 o flynyddoedd diwethaf.
Er iddynt ddilyn llwybrau tra gwahanol, mae Mike, Peter ac Eric oll wedi bod â diddordeb brwd mewn gwirfoddoli ar hyd eu bywydau; bu Mike yn gweithio i Ymddiriedolaeth y Tywysog am 10 mlynedd fel Cadeirydd ei sir a threuliodd sawl blwyddyn gyda'r Lords Taverners, yn helpu pobl ifanc dan anfantais drwy griced; mae Eric wedi codi symiau sylweddol o arian at elusennau drwy redeg Marathon Llundain deirgwaith; ac etholwyd Peter yn aelod o Gyngor Sir Reading a Berkshire rhwng 1972 a 1985 ac eto rhwng 1989 a 2014 pan ymddeolodd. Mae hefyd wedi gwirfoddoli yn ei Siop Lyfrau Oxfam leol a siop leol Elusen Sue Ryder.
Ers ei sefydlu, mae Discovery SVS wedi helpu miloedd o fyfyrwyr i gefnogi cymunedau lleol drwy gyfrwng prosiectau sy'n canolbwyntio ar les, cynhwysiant, gwaith ieuenctid, a'r amgylchedd. Fis Tachwedd diwethaf, dathlodd Discovery SVS 60 mlynedd ers ei sefydlu a chyda grant gwerth bron £14,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, lansiodd Discovery60, blwyddyn o weithgareddau i ddathlu newid wedi’i sbarduno gan fyfyrwyr.
Pan oedd gan Mike, Peter ac Eric egin syniad am wasanaeth gwirfoddoli yn ôl ym 1964, doedd dim un ohonynt yn credu eu bod yn gwneud rhywbeth arbennig; eu hunig amcan oedd 'cyfrannu rhywbeth gwerthfawr at y gymuned leol'. Yr awydd hwn, i roi rhywbeth yn ôl, wrth gwrs yw'r peth mwyaf arbennig oll a dylai Mike, Peter ac Eric fod yn falch o'u rôl wrth sefydlu mudiad gwirfoddoli ym Mhrifysgol Abertawe sy'n parhau i fynd o nerth i nerth ac sydd wedi cyfrannu cymaint at ddatblygu hunaniaeth y Brifysgol, fel un sy'n llwyr ymroddedig i anghenion ei chymuned leol.