Graddiodd Janet Ashdown o Brifysgol Abertawe ym 1980 gyda BSc mewn Peirianneg. O fan hyn, ymunodd Janet â BP plc lle cafodd gyfle i wneud sawl rôl mewn cyflenwi tanwydd, gweithgynhyrchu, masnachu olew a marchnata manwerthu.
Yn ei rôl ddiwethaf gyda BP, fel pennaeth Uned Fusnes Tanwyddau'r DU, roedd Janet yn gyfrifol am rwydwaith o allfeydd tanwydd ledled y DU gwerth £20 biliwn.
O 2010 i 2012, bu Janet yn gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Harvest Energy, busnes rhyngwladol a gefnogir gan ecwiti preifat. Bu hefyd yn gweithio fel cyfarwyddwr anweithredol yn SIG plc, Cymdeithas Adeiladu Coventry, Marshalls plc ac fel cadeirydd Pwyllgor Prosiectau a Rhaglenni'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.
Ers 2012 mae gan Janet bortffolio Cyfarwyddwr Anweithredol helaeth ac ar hyn o bryd mae hi'n; Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd y Pwyllgor Taliadau yn Victrex plc, Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd y Pwyllgorau Cynaliadwyedd Corfforaethol a Thaliadau yn RHI - Magnesita NV, Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol yn Synthomer Plc, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Stolt Nielsen Ltd ac yn ddiweddar iawn ar ôl deng mlynedd o wasanaeth y mae wedi camu i lawr o Fwrdd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, corff hyd braich y llywodraeth lle'r oedd hi'n Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol.