CYNHADLEDD RYNGWLADOL

Cynhaliodd grŵp ymchwil CEPSAM (y Ganolfan Astudiaethau Cymharol Portiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America) Prifysgol Abertawe gynhadledd ar-lein 'Green Hispanisms’ ar 6ed a 7fed Gorffennaf 2021.

Mae thema’r amgylchedd, pwnc sydd wedi brigo o’r newydd, yn cynnig man cyfarfod sy'n ysgogi’r meddwl ar draws nifer o ddisgyblaethau sy'n rhychwantu Llenyddiaeth, Hanes, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth a’r Gwyddorau Bywyd.

Er bod ysgolheigion o Benrhyn Iberia, America Ladin ac Affrica Lwsoffon eisoes yn cydweithredu ac yn cynnal deialog rhyng-gyfandirol ar faterion sy'n gysylltiedig ag ecofeirniadu, ychydig yw nifer y cyhoeddiadau ymchwil yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae yr un mor wir bod rhywfaint o fomentwm bellach: mae Americanwyr Lladin cyfoes ac ysgolheigion ym maes Penrhyn Sbaen yn dechrau ailysgrifennu theori ecolegol wrth iddyn nhw ei chymhwyso i gyd-destunau newydd, ac wrth wneud hynny maen nhw’n cyfoethogi dadleuon amlddiwylliannol, trawswladol a rhyngddisgyblaethol am lenyddiaeth, celfyddyd a dyfodol y blaned.

Cyfoethogodd cyfranogiad Fforwm Amgylchedd Abertawe (Cyngor Abertawe) y trafodaethau hyn drwy roi manylion am flaenoriaethau lleol a nodi llwybrau er mwyn i brifysgolion a chymunedau gydweithredu â’i gilydd.

Cliciwch yma i weld ein rhaglen siaradwyr.

Cliciwch yma i weld y llyfr crynodebau.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Lloyd Davies (l.h.davies@swansea.ac.uk).

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Ieithoedd Modern Prifysgolion (UCML) ac Instituto Cervantes Llundain am eu cefnogaeth hael.

Instituto Cervantes logo UCML Logo