Mae Val Redden yn un o aelodau staff mwyaf hirsefydlog Prifysgol Abertawe. Dechreuodd Val weithio yn y Brifysgol ym 1968. Mae ei gŵr a'i dwy ferch wedi dal swyddi yn y Brifysgol hefyd.  

Beth sydd wedi bod yn drawiadol am eich amser yn y Brifysgol? 

Y peth mwyaf trawiadol i mi yw'r newidiadau sydd wedi digwydd yma dros y blynyddoedd. Hefyd, dechreuodd fy ngŵr weithio fel Porthor Neuadd Breswyl gyda'r nos a dechreuodd fy merched weithio yma hefyd, y naill i'r Gwasanaethau Preswyl a'r llall i'r Gwasanaethau Arlwyo – roedd fel petai’r teulu yn meddiannu'r lle. Rwyf wedi gweithio gyda chynifer o bobl, gan gynnwys rhai o'r cymeriadau gorau y gallech ddymuno cwrdd â hwy, ac rwy'n gweld eisiau pob un ohonynt.  

Llun o Val Redden

Beth fu trywydd eich gyrfa? 

Dechreuais weithio ym mis Rhagfyr 1968, ychydig ar ôl y Nadolig, pan oedd y Brifysgol ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Gŵyl San Steffan yn unig. Roeddwn yn gweithio yn Abaty Singleton a byddwn yn dosbarthu'r holl ddeunydd ysgrifennu i adrannau ym mhob rhan o'r Brifysgol bob wythnos, yn ogystal â theipio'r cyfrifon blynyddol, eu hargraffu a'u coladu ar fwrdd anferth y tu allan i swyddfa'r Is-ganghellor. Yna symudais i'r adran Ystadau, cyn gweithio gyda'r Clerc Gwaith a dychwelyd i Ystadau, lle rwyf wedi aros byth ers hynny.  

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf pan ddewch i'r gwaith? 

Ers i'm gŵr farw yn 2017, mae fy ngwaith wedi bod yn bwysicach i mi ac rwy'n edrych ymlaen at ddod i'r gwaith bob dydd. Mae pob dydd yn wahanol, sy'n fy nghadw ar flaenau fy nhraed. Rwy'n cwrdd â llawer o bobl a oedd yn adnabod fy ngŵr a minnau o bryd i'w gilydd ac mae'n braf hel atgofion am yr hen ddyddiau.  

Beth fu eich uchafbwyntiau proffesiynol? 

Fy uchafbwynt proffesiynol mwyaf cofiadwy oedd derbyn fy nhystysgrif goruchwylydd gan yr Is-ganghellor ar y pryd, Robin Williams. Gwnes i basio fy NVQ ac ennill fy EDL, i gyd drwy gymorth y Brifysgol. 

Beth fu'r newidiadau mwyaf a welsoch yn ystod eich 51 o flynyddoedd yn y Brifysgol?  

Roedd yn arfer bod yn fach â dim ond tair neuadd breswyl. Rwyf wedi gweld twf y Brifysgol – mae cynifer o adeiladau newydd wedi cael eu hadeiladu, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Taliesin a'r Ganolfan Eifftaidd. Mae wedi bod yn wych gweld popeth yn datblygu ac yn newid er gwell.  

Beth yw'r peth pwysicaf rydych wedi ei ddysgu am eich bywyd gwaith?  

Rwyf wedi dysgu bod yn rhaid i chi geisio cyd-dynnu â phawb rydych yn gweithio gyda hwy – ac rwyf wedi gweithio gyda llawer o bobl – ac rwyf wedi gweld eu bod yno i'ch cefnogi bob amser pan fydd eu hangen arnoch. Mae'r Brifysgol ac Ystadau, lle rwy'n gweithio, fel teulu agos.  

Pa gyngor a fyddech yn ei roi i aelodau newydd o staff?  

Mwynhewch bob munud o weithio yn y Brifysgol ac ewch ati i fynegi eich barn. Achubwch ar unrhyw gyfleoedd i ddatblygu a gynigir i chi gan fod y Brifysgol yn annog staff i symud ymlaen.