Yn ystod ei phlentyndod, rhoddodd Tirion Thomas gynnig ar ddawnsio a gymnasteg, ond dim ond pan gydiodd mewn pêl rygbi am y tro cyntaf y taniwyd ei dychymyg.  

“Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw beth yn gwneud y tro i mi tan i mi ddarganfod fy nghariad at rygbi. Pan oeddwn yn 11 oed, gwnaethom symud i'r Bala ac ymunais â thîm rygbi'r merched. Rwyf wedi bod yn rhan o'r clwb ers hynny.”  

Dair blynedd yn ôl, pan oedd tîm y merched heb hyfforddwr, cydiodd Tirion yn yr awenau. 

“Ni allwn i wylio'r tîm yn diflannu, yn enwedig ar ôl i mi gael cymaint o fwynhad dros y blynyddoedd.” 

Tirion Thomas yn dal tlws

O ganlyniad i'w hymroddiad i'w chlwb, enillodd Tirion un o’r anrhydeddau mwyaf ym myd chwaraeon Cymru, ond erbyn hyn mae'r fyfyrwraig sy'n astudio bydwreigiaeth yn dweud ei bod yn mwynhau paratoi ar gyfer ei gyrfa hirdymor yn hytrach na'i gêm nesaf.  

Roedd hi'n fuddugol yng nghategori’r Arwr Tawel yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru ar ôl hyfforddi timau merched dan 13 oed, dan 15 oed a dan 18 oed Clwb Rygbi'r Bala, yn ogystal â bod yn gapten ar dîm dan 18 oed Clwb Rygbi Gogledd Cymru (RGC).  

Fodd bynnag, y dyddiau hyn y cwrs gradd anrhydedd mewn Bydwreigiaeth yw ei phrif flaenoriaeth.   

“Bu'n uchelgais i mi fod yn fydwraig ers bore fy oes. Ar ôl ymroi popeth i rygbi yn ystod y tair blynedd diwethaf, roeddwn yn gwybod mai dyma'r amser i ganolbwyntio ar fy ngyrfa hirdymor.  

Rwyf wedi dwlu ar bob munud o'm hyfforddiant hyd yn hyn – mae rhai pethau wedi bod yn anos nac eraill, ond mae'r cwbl wedi bod yn werthfawr. Mae fy mhrofiad o fydwreigiaeth hyd yn hyn wedi rhagori ar fy nisgwyliadau.  

“Mae lleihau fy ymrwymiadau rygbi wedi bod yn heriol, ond roeddwn yn barod i wneud y cyfaddawd hwnnw. Dyma'r amser i mi ganolbwyntio ar fy mreuddwyd o fod yn fydwraig.”  

Fodd bynnag, nid yw Tirion am roi'r gorau i rygbi eto o bell ffordd.  

Ers symud i Abertawe o ogledd Cymru, mae Tirion wedi bod yn ymarfer gyda thîm rygbi'r Brifysgol, yn ogystal â pharhau i helpu ei chlwb rygbi lleol.  

“Mae hyfforddi a gwirfoddoli'n mynd â'm bryd o hyd, felly mae'n wych gwybod bod yr hyn rwy'n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar eraill. Mae rygbi'n rhoi cyfle i mi reoli'r straen sydd arnaf ac mae hyfforddi'n rhoi llawenydd i mi. 

“Bydd rygbi'n bwysig i mi am byth ac, oherwydd hynny, rwy'n benderfynol o greu lle iddo ochr yn ochr â'm gyrfa fel bydwraig. Rwyf am barhau i fod yn rhan o'r gymuned rygbi – boed hynny fel chwaraewr neu fel hyfforddwr.  

“Wrth ddilyn gyrfa mor ddwys, bydd angen i mi gael cyfle i ddianc rhag popeth, ymbwyllo a chadw'n weithgar drwy wneud rhywbeth rwy'n dwlu arno – sef rygbi.”