Siwan yw Pennaeth Rygbi yn Abertawe, sy’n golygu ei bod yn gyfrifol am rygbi i ddynion ac i fenywod yn y Brifysgol. 

Siwan Lillicrap yn ei cit rygbi Cymru

Sut wnaethoch chi gychwyn ym myd rygbi? 
Gwnes i feithrin fy nghariad at rygbi yn ystod fy mhlentyndod, drwy wylio fy nhad yn hyfforddi a’m brawd yn chwarae yng Nghlwb Rygbi Waunarlwydd.Yn anffodus, doedd dim timau lleol i ferched iau, ond roeddwn i’n ysu i ymaelodi â thîm Menywod Waunarlwydd.Roedd fy mam yn mynnu fy mod i’n aros tan fy mod yn 17 oed, oherwydd elfen gorfforol rygbi.Yr wythnos ar ôl fy mhen-blwydd yn ddwy ar bymtheg oed, es i i hyfforddi ac ychydig o wythnosau’n ddiweddarach, chwaraeais i fy ngêm gyntaf.Y tymor canlynol, dechreuais i ym Mhrifysgol Abertawe lle roeddwn i’n gallu dilyn rygbi ymhellach. 

Beth yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu gêm y menywod heddiw? 
Yr her fwyaf rydyn ni’n ei hwynebu yw cydbwyso ymrwymiadau eraill gyda chystadlu.Dyw chwaraeon menywod ddim wedi dal i fyny gyda rhai dynion o hyd, ond cafwyd gwelliannau, gyda mwy o sylw yn y cyfryngau ac adnoddau gwell.Rydw i’n gobeithio y bydd y camau hyn ymlaen yn parhau ar ôl Covid-19

Beth sy’n gwneud capten da? 
Dyma gwestiwn anodd, gan fod barnau’n amrywio siŵr o fod.Yn fy marn i, capten da yw un na fyddai’n disgwyl i neb arall yn y tîm wneud rhywbeth na fyddai hi’n ei wneud, rhywun sy’n fodlon arwain o’r blaen, rhywun llawn angerdd a chymhelliad ac sy’n fodlon aberthu.A gobeithio bydd parch yn dod law yn llaw â hyn i gyd. Mae’n rhaid i chi fod yn bwyllog, dewis eich amser i siarad a gwneud penderfyniadau, oherwydd y gallai’ch gweithredoedd  gael effaith yng ngwres y funud. 

Sut ydych chi’n cydbwyso chwaraeon ac addysgu? 
Mae’n anodd, ond mae’n ymwneud ag aberthu.Gan ein bod ni’n hyfforddi’n gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos er mwyn osgoi darlithoedd, go brin bydda i gartref o ddydd Llun i ddydd Gwener.Yr un peth dros y penwythnos yn ystod y tymor, oherwydd y gwersylloedd hyfforddi neu’r gemau.Rydw i’n lwcus bod fy nheulu mor gefnogol, ond does dim amser gen i am lawer o bethau eraill.Ond mae’n werth e’ – rydw i’n dwlu ar fy ngwaith ac rydw i’n dwlu ar wisgo’r crys coch ‘na, felly mae’n werth aberthu yn bendant. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ferched sy’n cychwyn ym myd rygbi? 
Mwynhewch e’!Rydw i wedi cwrdd â’m ffrindiau gorau drwy rygbi, ac mae e’ wedi dysgu cymaint i mi am fywyd:disgyblaeth, angerdd, ymrwymiad, cymhelliad, a chymaint mwy.Mae e’ wedi rhoi cymaint o lawenydd i mi yn fy mywyd ar y cae ac oddi arno, a fyddwn i ddim yn newid dim byd.Byddwn i’n dweud, peidiwch â rhoi pwysau ar eich hun;bydd pawb yn cyflawni pethau gwahanol ond y peth pwysig yw cael amser rhagorol gyda ffrindiau. 

Sut beth yw’r dyfodol? 
Prysur! Mae rygbi yn y brifysgol yn tyfu.Y flwyddyn nesaf yw blwyddyn Cwpan y Byd ym myd rygbi i fenywod, felly dros y 18 mis nesaf bydda i’n clustnodi mwy o amser i’m gwaith hyfforddi a’m lles er mwyn sicrhau y bydda i yn y cyflwr gorau posib i fod ar yr awyren i Seland Newydd, gobeithio.