Myfyrwraig ddoethuriaethol yn y flwyddyn olaf a ariennir gan yr ESRC yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe yw Sara Correia, lle cafodd ei phenodi’n ddiweddar yn Ddarlithydd mewn Seiberfygythiadau. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y sawl sy’n dioddef cam yn sgîl seiberdroseddau a thwyll.

Hi yw enillydd Gwobr Seren y Dyfodol yn sgîl Ymchwil ac Arloesi Eithriadol 2020 Prifysgol Abertawe. 

Dyma a ddywedodd Sara: “Fy nod yw defnyddio data i wneud synnwyr o’r byd rydyn ni’n byw ynddo – a’i wneud rywfaint yn well, gobeithio. Mae fy ngwaith yn cael ei wneud ar y cyd â’r uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol Tarian. Yn dilyn fy ngwaith gydag aelodau o’r Brifysgol a Tharian, fy ngobaith yw gwella’n dealltwriaeth o batrymau dioddef yn sgîl troseddau, a hynny er mwyn galluogi asiantaethau cyfiawnder troseddol i dargedu’u hadnoddau’n fwy effeithlon.”

Llun pen o Sara Correia 

Dyma a ddywedodd yr Athro Stuart Macdonald o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seiberdroseddau’r Brifysgol (CYTREC): “Mae ymchwil Sara yn rhyfeddol, yn gyntaf oherwydd ei drylwyredd ac yn ail yn sgîl ei ryngddisgyblaethedd. Mae ei hymchwil yn cyfuno dulliau ansoddol uwch sy’n seiliedig ar gyfrifiaduron â dirnadaeth ddamcaniaethol goeth ynghylch y ffordd mae’r gymdeithas yn creu canfyddiadau o ddioddefwyr troseddau a’r graddau y maen nhw’n agored i niwed. Mae’n enghraifft odidog o ymchwil sy’n cael effaith go iawn. Crëwyd y prosiect ar y cyd â Tharian ac mae canfyddiadau Sara yn cyd-fynd yn uniongyrchol â’u hanghenion a’u blaenoriaethau sefydliadol.”

Yn ôl uwch swyddog yr heddlu, mae gwaith Sara “wedi chwalu ffiniau a gosod safonau newydd yn ogystal â chreu ffordd newydd ac agored o gydweithredu rhwng lluoedd gorfodi’r gyfraith a’r byd academaidd. Mae hefyd wedi hysbysu’n penderfyniadau ynghylch pwy yw’n dioddefwyr sydd fwyaf agored i niwed yn sgîl seiberdroseddau ac mae wedi sicrhau hefyd ein bod yn canolbwyntio’n fwy ar ddioddefwyr yn ein cymunedau.”

Gyda’r nod o gefnogi’i hymchwil, mae Sara wedi bod yn llwyddiannus o ran ennill ffynonellau ariannu ac wedi cyd-drefnu digwyddiadau niferus ym maes seiberdroseddau a daeth arbenigwyr a rhanddeiliaid blaenllaw o bedwar ban byd i fynychu’r rhain.

Mae hi wedi cyflwyno’i chanfyddiadau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol yn y DU a thramor. Yn ogystal â’i doethuriaeth, mae Sara wedi cyhoeddi’i herthygl gyntaf fel unig awdur yn y cyfnodolyn a adolygir drwy gymheiriaid Crime Science ac mae wedi ysgrifennu erthygl ar y cyd ac wedi cyd-gyhoeddi erthygl i’r Swyddfa Gartref ar faint a natur twyll yn y DU.

Dewch i wybod mwy am waith Sara.