Athro ffisioleg ymarfer corff a biocemeg yw Richard Bracken. Mae ganddo ddiddordeb arbenigol yn y ffordd y mae meddyginiaeth, maeth a thechnoleg yn rhyngweithio ag ymarfer corff yn achosion o ordewdra a diabetes.  

Sut dechreuodd eich diddordeb yn eich maes? 

Rwy'n frwdfrydig dros ddeall sut mae'r corff dynol yn ymaddasu mewn ffyrdd cymhleth i wneud gweithgareddau llawn straen megis ymarfer corff. Rwyf hefyd yn dal i ryfeddu at y ffaith bod y bwyd rydym yn ei fwyta'n cael effaith anferth ar yr ynni rydym yn ei storio ac yn ei ddefnyddio wrth wneud ymarfer corff.  

Mae fy nhîm ymchwil a minnau'n archwilio pobl sy'n dioddef o anhwylderau metabolaidd megis diabetes neu ordewdra sydd am fod yn iachach, ac rydym yn archwilio sut gellir goresgyn metaboledd camweithredol drwy ragor o weithgarwch corfforol a gwell maeth.  

Hunlun o Richard Bracken

Beth hoffech i'ch gwaith ymchwil ei gyflawni?  

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar bobl sy'n byw gyda diabetes ac/neu sy'n ordew. Rydym yn gwrando ar syniadau ymchwil gwirfoddolwyr ac yn helpu i gyflwyno atebion a fydd yn golygu rhywbeth i'r unigolyn neu'r proffesiwn gofal iechyd a allai elwa ohonynt. Gall hyn fod ar ffurf gweithgarwch maethol a chorfforol neu ymyriadau o ran meddyginiaeth.  

Beth yw eich pwyslais ar hyn o bryd? 

Ar hyn o bryd, rwy'n cymryd rhan mewn prosiect mawr ar gyfer InterReg yr UE sy'n archwilio mathau iachach o geirch, er mwyn ystyried effaith y rhain ar iechyd pobl.  

Rwyf hefyd yn ymchwilio i ddefnyddioldeb mathau newydd o inswlin er mwyn rheoli glwcos yn well yng ngwaed pobl â diabetes math 1 sy'n ceisio gwneud ymarfer corff heb fod mewn perygl o gael crynodiadau glwcos isel yn y gwaed, sef hypoglycaemia 

Yn olaf, mae gennyf ddiddordeb mewn rheoli glwcos yng ngwaed pobl athletaidd, yn ogystal â phobl â diabetes, wrth iddynt wneud ymarfer corff. Felly, rydym wedi ymuno â chwmni technoleg uwch o'r Unol Daleithiau a all gofnodi glwcos yn barhaus am wythnosau ar y tro, drwy gyfrwng synhwyrydd bach ar gefn y fraich. Mae'r fath wybodaeth bellach yn galluogi pobl i weld lefelau glwcos yn cynyddu ac yn gostwng mewn ymateb i fwyta, ymprydio ac ymarfer corff. Bydd y fath wybodaeth yn galluogi amrediadau glwcos iach i gael eu pennu a allai helpu i atal pobl rhag dioddef o amrywiadau sylweddol o ran lefel glwcos.