Graddiodd Renee o Brifysgol Abertawe yn 2003 gyda BA mewn Anthropoleg. Yn ogystal â bod yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd ffilmiau dogfen, mae hi’n syrffio i safon uchel. 

Gall dewis prifysgol fod yn anodd. Sut y gwnaeth Prifysgol Abertawe fynd â’ch bryd chi? 

Mae Prifysgol Abertawe mor agos at y môr ac roedd ei lleoliad heb os yn ffactor mawr i mi – mae bod yn agos at y môr a chael traethau lle’r oeddwn yn gallu syrffio wedi dylanwadu ar nifer o benderfyniadau yn fy mywyd. 

Renee Godfrey gyda cheffyl

Rydych chi wedi gweithio ar raglenni fel Human Planet y BBC, felly byddwch chi wedi gweld rhai pethau anhygoel. Beth yw eich prif atgof a pham mae ef mor gofiadwy?  

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael teithio i rai o'r mannau mwyaf anghysbell ar y blaned a threulio amser yn ffilmio ac yn cyfleu straeon. Roedd gwneud Human Planet yn bleser go iawn – roedd ffilmio eliffantod gyda'r nos yng Nghenia yn brofiad gwych, er enghraifft.  Byddai'r dyn camer a minnau'n eistedd yn fud am oriau drwy'r nos o dan y sêr, yn aros i'r eliffantod ddod i yfed. Er gwaethaf eu maint, mae eliffantod yn symud yn dawel dros y tir, felly rydych bob amser yn teimlo eich bod yn ffodus iawn i'w gweld hwy'n cyrraedd yn sydyn.  

Ar fy nghyfres ddiweddaraf, Hostile Planet, sy'n cael ei darlledu ar National Geographic, gwnaethom ffilmio babŵns Hamadryas ym Mharc Cenedlaethol Awash yn Ethiopia. Gwnaethom eu ffilmio o'r tir, yn ogystal ag o'r awyr, er mwyn rhoi golwg newydd anhygoel.  

Pa mor bwysig yw rôl gwneuthurwyr ffilmiau dogfen o ran pwysleisio effaith bodau dynol ar y blaned? 

Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweld pobl yn rhyngweithio â’u hamgylchedd mewn nifer o ffyrdd. Roedd Human Planet yn gyfres a oedd yn seiliedig ar bwysleisio ein cysylltiad â byd natur ym mhob man – bysgotwyr ar afon Mekong sy’n dibynnu ar gathbysgod i fudoi hyfforddi gwreiddiau coed ffigs i greu pontydd gwreiddiau byw sy’n mynd i’r afael â monsynau ym MeghalayaMae perthnasoedd anhygoel rhyngom ni a byd natur – ond nid yw pob un ohonynt mewn lleoedd anghysbell. Mae’n bwysig i ni gofio bod llawer o bobl yma yng Nghymru’n dibynnu ar y tymhorau fel y ffermwyr yn Eryri neu’r pysgotwyr crancod oddi ar arfordir Ceredigion. Yn y pen draw, mae gan bob un ohonom ni gysylltiad â byd natur ac mae hwn yn rhywbeth y dylai pob un ohonom ni ei barchu a’i ddeall, yn enwedig wrth i’n hamgylchedd newid. 

Rydych chi wedi sefydlu eich cwmni cynhyrchu eich hun gyda James Honeyborne, y person a greodd gyfres Blue Planet y BBC. A wnewch chi sôn wrthym am rai o’r prosiectau yr ydych chi’n gweithio arnynt gyda’ch gilydd? 

Sefydlodd James a minnau Freeborne Media er mwyn dod â’n sgiliau a’n profiad ynghyd. Mae’n gydweithrediad cyffrous a ffres iawn ac rydym yn bwriadu parhau i greu ffilmiau sy’n rhannu negeseuon pwysig ar draws y blaned. Mae effaith Blue Planet 2 wedi bod yn bwerus ac mae’n parhau hyd heddiw trwy ein hymwybyddiaeth o blastig ac iechyd ein cefnforoedd. Erbyn hyn, mae partneriaeth greadigol rhwng Freeborne a Netflix; gyda’n gilydd, rydym yn bwriadu parhau i adrodd straeon pwerus mewn ffyrdd cyfareddol. 

A oes gennych chi unrhyw gyngor yr hoffech chi ei roi i’n myfyrwyr presennol a’n graddedigion diweddar? 

Dylech chi bob amser geisio dewis llwybr mewn bywyd lle rydych chi’n dilyn rhywbeth sy’n bwysig i chi. Os ydych chi’n credu yn yr hyn yr ydych chi’n ei wneud, ac rydych chi’n dwlu ar ei wneud, yna byddwch chi’n ei gyflawni hyd eithaf eich gallu.