Mae Pete King bellach yn arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes gwaith chwarae ac yn rheoli dwy raglen gradd meistr yn y Brifysgol, ond gallai ei yrfa wedi bod yn dra gwahanol.  

Wrth adael yr ysgol, ei unig gymwysterau oedd dwy lefel O a thystysgrif mewn teipio, ac roedd yn oedolyn erbyn iddo ailgydio yn ei addysg.  

I ddechrau, roedd yn ymddangos y byddai dyfodol Pete yn yr awyr agored ar ôl iddo gael hyfforddiant ym maes garddwriaeth. Serch hynny, cafodd ei ddenu at yr ystafell ddosbarth ar ôl iddo gwblhau gradd mewn botaneg a chwrs addysg athrawon.  

Meddai: “Yn hytrach na bod yn athro, trodd fy sylw at agwedd wahanol iawn ar wasanaethau plant, sef gwaith chwarae, a gwnes i weithio yn y maes hwnnw tan i mi ddechrau ar PhD mewn Astudiaethau Plant yn 2008.”  

Pete King yn dal llyfryn

Dan oruchwyliaeth Dr Justine Howard, sydd bellach yn un o'i gydweithwyr, aeth Pete ati i ymchwilio i ymdeimlad plant o gael dewis wrth iddynt chwarae. O ganlyniad i hynny, dyfarnwyd doethuriaeth iddo yn 2013, ac ysgrifennodd ef bedwar papur ymchwil a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion, yn ogystal â phennod yn y llyfr y gwnaeth ei olygu ar y cyd â Dr Shelly Newstead, un o'i gyd-ymchwilwyr.  

“Roeddwn yn falch o gael fy mhenodi'n aelod llawn o'r staff yma yn Abertawe, gan addysgu mewn rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig, ac rwyf wedi cyfarwyddo'r rhaglen MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig a'r rhaglen MA mewn Astudiaethau Plentyndod ers 2018.” 

Ochr yn ochr â'i ddyletswyddau addysgu, mae brwdfrydedd Pete dros chwarae a gwaith chwarae yn parhau. Mae ei ymchwil i'r cylch chwarae wedi cael ei chyhoeddi mewn cyfnodolion a'r llyfr The Play Cycle: Theory, Research and Application ar y cyd â'r diweddar Gordon Sturrock. Mae ei waith gyda Dr Newstead wedi arwain at ddiwygio damcaniaeth gwaith chwarae sy'n cefnogi arferion, hyfforddiant ac addysg gwaith chwarae.  

Yn ogystal, gwnaeth ef ddatblygu adnodd newydd i ddefnyddio'r dull o arsylwi ar gylchoedd chwarae er mwyn eu hamlinellu, a gafodd ei dreialu drwy ddefnyddio sefyllfaoedd chwarae byw neu ar ffurf fideo.  

Mae ei ymchwil ddiweddaraf yn canolbwyntio ar y ffordd y mae'r pandemig wedi effeithio ar waith chwarae. Yn dilyn gwaith ymchwil ledled y DU gyda phlant ac ymarferwyr, derbyniwyd dau gyhoeddiad o eiddo Pete mewn cyfnodolion ac mae dwy astudiaeth arall yn yr arfaeth sy'n ymchwilio i waith chwarae yn ystod argyfwng Covid-19.  

Mae Pete, sy'n meddu ar docyn tymor i wylio Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, yn falch o'i lwybr anghonfensiynol i'r byd academaidd ac mae'n awyddus iawn i'w brofiadau annog ei fyfyrwyr: “Rwy'n atgoffa fy myfyrwyr o hyd na fydd addysg byth yn dod i ben ac y bydd yno yn ôl yr angen. Mae fy hanes innau'n profi bod hynny'n wir.”