Llun pen o Owen Pickrell

Mae Dr Owen Pickrell yn niwrolegydd ymgynghorol ac yn athro cysylltiol clinigol er anrhydedd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae'n gweithio fel niwrolegydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae ganddo ddiddordeb mewn epilepsi fel rhan o'i arbenigedd ehangach.  

Sut dechreuodd eich diddordeb yn eich maes? 

Er fy mod wedi gweithio ym maes ymchwil awyrofod yn flaenorol, gwnes i ailhyfforddi mewn meddygaeth er mwyn gweithio gyda phobl yn fwy. Roedd gennyf ddiddordeb brwd yn y ffordd yr oedd yr ymennydd a'r system nerfol yn gweithredu ac roedd ein prinder gwybodaeth am yr ymennydd yn fy synnu. Felly, es i ymlaen i arbenigo mewn niwroleg.  

Mae llawer o glefydau ac anhwylderau niwrolegol nad ydym yn eu deall yn llawn. Ar hyn o bryd, rwy'n rhannu fy amser rhwng niwroleg glinigol ac ymchwil niwrolegol.  

Beth hoffech i'ch gwaith ymchwil ei gyflawni?  

Prif ddiddordeb fy ngwaith ymchwil yw epilepsi, sy'n un o'r clefydau niwrolegol mwyaf cyffredin, gan effeithio ar oddeutu 1% o'r boblogaeth. Mae pobl ag epilepsi'n wynebu problemau sylweddol a'm prif nod yw ceisio eu helpu drwy feithrin dealltwriaeth well o achosion, dilyniant a dulliau o drin epilepsi drwy ddefnyddio geneteg a “data mawr”.  

Rydym yn ffodus yn Abertawe bod gennym fanc data o'r radd flaenaf, sef SAIL, yn ogystal â Biofanc Niwroleg Abertawe, y gallwn eu defnyddio i ateb rhai cwestiynau pwysig ar lefel y boblogaeth, am epilepsi a chlefydau niwrolegol eraill megis clefyd Parkinson a sglerosis ymledol.  

Beth yw eich pwyslais ar hyn o bryd? 

Mae grŵp niwroleg Abertawe'n archwilio effaith Covid-19 ar bobl ag epilepsi yng Nghymru. Mae pryderon am effeithiau uniongyrchol y feirws, yn ogystal â'r effeithiau anuniongyrchol o ganlyniad i newidiadau i'r gofal iechyd a ddarperir ac ynysu cymdeithasol cynyddol. Mae'n bwysig ein bod yn deall unrhyw effeithiau cyn gynted â phosib.  

Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn anhwylder niwrolegol llai cyffredin ond pwysig o'r enw gorbwysedd mewngreuanol idiopathig. Mae hwn yn achosi i bwysedd yr hylif yn yr ymennydd gynyddu ac mae'r symptomau'n cynnwys cur pen ac achosion o amharu ar y golwg, yn ogystal â nam ar y golwg weithiau. Rydym wedi gweld yn ddiweddar bod nifer yr achosion o'r anhwylder hwn yn cynyddu'n sylweddol yng Nghymru.  

Mae'r grŵp ymchwil niwroleg hefyd yn datblygu technoleg prosesu iaith naturiol. Rydym wedi datblygu system o'r enw ExECT, sy'n dethol gwybodaeth am epilepsi'n awtomatig o destun heb strwythur megis llythyrau oddi wrth glinigau a chofnodion meddygol. Bydd hon yn darparu gwybodaeth fanwl at ddibenion ymchwil a'r gobaith yw y bydd yn ein galluogi i edrych yn fanylach ar achosion a dulliau o drin epilepsi.