Llun pen o Oluwaseun Osowobi

Astudiodd Oluwaseun am radd meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio ei thesis ar gydraddoldeb rhywiol a throseddau rhywiol yn erbyn menywod a phlant. Ar ôl graddio, gwnaeth interniaethau ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig a chyda mudiad Half the Sky yn Efrog Newydd.  

Yn 2019, enillodd Oluwaseun Wobr y Gymanwlad am fod yn Berson Ifanc y Flwyddyn, yn ogystal ag ennill Gwobr Ieuenctid y Gymanwlad ar gyfer Affrica ac Ewrop am ganolbwyntio ar SDG5: Cydraddoldeb Rhywiol.  

Ganed Oluwaseun yn Nigeria a dychwelodd yno ar ôl ei hastudiaethau. Erbyn hyn, hi yw Cyfarwyddwr Gweithredol y fenter Stand to End Rape (STER). 

Mae STER yn sefydliad nid er elw sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc. Mae'n cynnig cymorth i fenywod, dynion a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd ar sail eu rhywedd yn Nigeria. Mae ei gwaith wedi cyrraedd dros 200,000 o bobl amae ganddi dîm o 200 o wirfoddolwyr yn Lagos, Port Harcourt ac Abuja bellach. 

Meddai OluwaseunMae ennill Gwobr y Gymanwlad, Person Ifanc y Flwyddyn, yn fy ysbrydoli i wneud mwy ac i wneud mwy o wahaniaeth. Mae'r wobr hon yn cydnabod y posibiliadau diddiwedd sydd ar gael i bobl ifanc pan benderfynant weithredu yn wyneb anghyfiawnder. 

Fy nod yw sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn Nigeria ac ar draws y Gymanwlad. Fel rhywun sydd wedi goroesi trais rhywiol, mae'r wobr hon yn dangos bod goroeswyr trais rhywiol yn ddewr a bod adrodd eu straeon yn bwerus. Mae'n fraint fawr mai fi yw'r person cyntaf o orllewin Affrica a'r un cyntaf o Nigeria i ennill y wobr. 

Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi derbyn fy Ngradd Meistr yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau  rhoddodd y ddealltwriaeth a'r wybodaeth roedd eu hangen arnaf ar gyfer fy ngyrfa. 

Fy hoff atgof o Abertawe yw meithrin cymuned o ffrindiau a theulu. Roeddwn yn dwlu ar weithgareddau'r eglwys, amseroedd astudio gyda myfyrwyr eraill yn y llyfrgell, a neidio ar y bws er mwyn cyrraedd fy nghydweithwyr. Wrth astudio am radd meistr, roeddwn yn awyddus i fagu profiad proffesiynol yn ogystal â phrofiad academaidd. Llwyddais i gael swydd yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn ogystal â gwaith mewn sectorau eraill. Cyfrannodd rhai o'r swyddi hyn at ariannu fy sefydliad yn Nigeria.”