Mae gan yr Athro Nuria Lorenzo-Dus rôl flaenllaw yn y gwaith ymchwil diweddaraf i helpu i gadw ein plant yn ddiogel ar-lein.  

Mae Nuria, deiliad Cadair Bersonol yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, wedi treulio 20 mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe'n ceisio gwella'r ddealltwriaeth o'r ffordd y mae ieithwedd yn llywio realiti ac yn cael ei llywio ganddo.  

Prif bwyslais Nuria yw'r defnydd o ieithwedd sy'n achosi problemau, gan amrywio o ddulliau cyfathrebu gormesol sy'n ffrwyno mynegiant rhydd, i ddulliau ystrywgar o gyfathrebu at ddibenion seiberdroseddu. Yn y maes hwn y mae wedi archwilio'r tactegau cyfathrebu a ddefnyddir gan grwpiau ideolegol eithafol a throseddwyr sy'n cam-drin plant yn rhywiol.

Nuria Lorenzo-Dus yn sefyll y tu ôl i rwystr

“Rwy'n mynd ati'n frwd i hyrwyddo ymchwil gymhwysol ac yn credu bod y ddealltwriaeth drylwyr ac arloesol rydym yn ei meithrin mewn prifysgolion ledled y byd yn gallu arwain at atebion ymarferol i heriau cymdeithasol allweddol, a bod yn rhaid i hynny ddigwydd.”  

Cyhoeddwyd gwaith ymchwil Nuria yn helaeth ac fe'i hariannwyd gan gynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig, ymddiriedolaeth Leverhulme, y Cenhedloedd Unedig (drwy gronfa End Violence) a Llywodraeth Sbaen.  

Fe'i gwahoddwyd hefyd i gyflwyno ei gwaith ledled y byd, yn Saesneg ac yn Sbaeneg.  

Mae Nuria yn mwynhau gweithio gydag academyddion o ddisgyblaethau eraill yn ogystal â rhanddeiliaid, ac mae'n gwbl ffyddiog mai cydweithredu yw'r allwedd i lwyddiant.  

“Mae gennym enghreifftiau ymarferol o'r hyn y gall cydweithrediad o'r fath ei gyflawni, gan gynnwys pecyn cymorth i hwyluso dulliau cyfathrebu mwy addas i blant mewn cyd-destunau cyfiawnder ieuenctid, dealltwriaeth gynnil o'r ieithwedd a'r tactegau gweledol a ddefnyddir gan grwpiau ideolegol eithafol ar-lein, ac adnoddau hyfforddi i amddiffyn plant rhag bod yn destun camfanteisio a cham-drin yn rhywiol ar-lein.  

“Wrth wneud fy ngwaith ymchwil presennol ar gadw plant yn ddiogel ar-lein, rwy'n arwain tîm o arbenigwyr o feysydd ieithyddiaeth, deallusrwydd artiffisial a pholisïau cyhoeddus sydd wrthi'n cydweithredu ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith, y rhai sy'n llunio polisïau a chyrff anllywodraethol. Y nod yw datblygu adnoddau moesegol gyfrifol o'r radd flaenaf er mwyn helpu swyddogion yr heddlu a gweithwyr diogelu proffesiynol i atal achosion o baratoi plant i bwrpas rhyw ar-lein.   

“Mae amcanion craidd y prosiect yn cynnwys cynyddu nifer y plant y nodwyd gan weithwyr proffesiynol eu bod mewn perygl, cryfhau gallu timau mewn labordai fforensig i adnabod plant sy'n cael eu paratoi i bwrpas rhyw, cynyddu ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o’r maes, a hyrwyddo ein hadnoddau er mwyn iddynt gael eu defnyddio'n eang ym mhedwar ban byd.”  

Daeth Nuria i Abertawe'n wreiddiol yn 2001 fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ar brosiect a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ar ddoniau ieithyddol ac mae hi bellach yn awyddus i roi anogaeth gyffelyb i'r anogaeth a gafodd hi ei hun.  

“Rwy'n mynd ati'n frwd i fentora a helpu ymchwilwyr gyrfa gynnar – hwy yw sêr y dyfodol. Gwnes i wasanaethu fel Deon Ymchwil Ôl-raddedig am fwy na phum mlynedd ac yn 2019–20 roeddwn wrth fy modd pan gefais fy enwi'n oruchwyliwr PhD gorau'r Brifysgol.”