Cwblhaodd Dr Matthew Ware ei radd baglor a meistr yn Abertawe cyn ymrestru i wneud doethuriaeth gydweithredol mewn nanodechnoleg gyda Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston yn Nhecsas, sef un o’r mentrau a ddeilliodd o Bartneriaeth Strategol Tecsas.

Ynghlwm wrth Bartneriaeth Strategol Tecsas Prifysgol Abertawe mae wyth o brifysgolion a sefydliadau iechyd blaenllaw ac mae wedi cael ei gosod ddwywaith ar restr fer Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth cylchgrawn Times Higher Education (THELMA). Yr hyn sy’n nodweddu’r Bartneriaeth yw hyd a lled a dyfnder ei gweithgareddau ymchwil, addysgu a symudedd sy’n estyn ar draws pob un o Golegau academaidd y Brifysgol, gan gynnig manteision i’r staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd.

Wedi iddo raddio, parhaodd Dr Ware i weithio yn Nhecsas, gan ymchwilio i driniaethau newydd ar gyfer canser pancreatig a chanser yr afu yng Ngholeg Meddygaeth Baylor. Arweiniodd ei ymchwil at ddau batent, gan gynnwys Dyfais CorleyWare, sef dyfais fewndriniaethol newydd sy’n trin y rhannau hynny o ganser nad oes modd i fflaim llawfeddyg eu gwaredu.

Llun pen o Matthew Ware 

Yn ystod haf 2018, ymgymerodd Dr Ware â rôl newydd fel gwyddonydd i Celgene, cwmni biodechnoleg sy’n datblygu ac yn masnacheiddio meddyginiaeth ar gyfer anhwylderau canser a llidiol. Ers mis Tachwedd 2019, mae Dr Ware wedi bod yn gweithio yn Bristol Myers-Squibb fel gwyddonydd i greu meddyginiaeth ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser.