Mae'r Athro Mary Gagen yn ddaearyddwr ffisegol sydd wedi cael ei hyfforddi'n eang, a'i harbenigedd ymchwil yw newid yn yr hinsawdd. Mae hi am archwilio sut mae newidiadau amgylcheddol yn effeithio ar goedwigoedd ein planed ac elfennau cylchredau carbon a dŵr mewn coedwigoedd, ac yn y dystiolaeth o newidiadau byd-eang blaenorol y mae hen goed yn ei chynnwys. Ar hyn o bryd, mae'n gwneud gwaith ymchwil yng nghoedwigoedd boreal gogleddol Fennoscania ac yn y coedwigoedd glaw trofannol ar dir isel yn Sabah ar ochr Faleisaidd Borneo. Ariennir ei gwaith ymchwil gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK), National Geographic, yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.  

Llun pen o Mary Gagen

Mae'r Athro Gagen yn arbennig o frwd dros fynd ag ymchwil academaidd y tu allan i'r brifysgol a gweithio gyda phlant ysgol ac aelodau o'r cyhoedd er mwyn eu cynnwys mewn gwaith ymchwil. Mae'n addysgu sgiliau allweddol i wyddonwyr ac yn cynnal modiwl lleoliad gwaith ar gyfer myfyrwyr daearyddiaeth. Mae'n cynnal rhaglen allgymorth Coleg Gwyddoniaeth Abertawe, sef S4, a ariennir gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.  

“Nid oeddwn yn fyfyriwr rhagorol yn yr ysgol, sy'n eithaf anghyffredin i academydd, ac rwy'n trafod hynny'n aml â myfyrwyr. Cefais BBC yn fy arholiadau Safon Uwch, a gradd gadarn, 2:1, yn hytrach na dosbarth cyntaf; nid disgybl A* ydw o bell ffordd! Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn rhoi gwybod i fyfyrwyr nad rhywbeth i'r plant mwyaf peniog yn unig yw gwyddoniaeth – rydym yn cyflwyno gwyddoniaeth ac addysg uwch mewn modd cul iawn weithiau. Nid yw hynny'n golygu bod addysg a gwyddoniaeth yn hawdd gan fod yn rhaid i chi weithio'n galed a chael rhywfaint o lwc. Fel mae’n digwydd, rwy’n gallu meddwl yn anuniongyrchol a datrys problemau, ac rwy'n gallu sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl yn cydweithio, felly rwy’n meddu ar rai sgiliau penodol sy'n ddefnyddiol er mwyn bod yn wyddonydd ac yn academydd ond nid wy’n honni fy mod yn ddisgybl disglair 

Serch hynny, roeddwn yn dwlu ar ddaearyddiaeth yn yr ysgol. Roedd hynny'n rhannol oherwydd ysbrydoliaeth fy athro daearyddiaeth pan oeddwn yn ifanc iawn, yn ogystal ag oherwydd fy mod yn hoff iawn o'r awyr agored yn ystod fy mhlentyndod. Roeddwn am fod yn yr awyr agored a dyna lle roedd y ddaearyddiaeth a'r ddaeareg, felly'r rheini oedd fy ffefrynnau!  

Mae meddu ar amrywiaeth daearyddwr yn fy ngalluogi i gysylltu â llawer o bobl wahanol o lawer o feysydd gwahanol. Mae hynny'n bwysig iawn er mwyn i ni allu cysylltu gwyddoniaeth ac ymchwil â chroestoriad mwy amrywiol o'r boblogaeth. Mae daearyddiaeth yn bwnc gwych ar gyfer agor y drws i bobl yn hyn o beth, a gallai rhywun gael ei ysbrydoli gan dipyn bach o ddaearyddiaeth yn yr ysgol i fynd ar daith unigol i yrfa hollol wahanol. Rwyf wrth fy modd fy mod yn cwrdd â ‘daearyddwyr’ drwy'r amser sy'n defnyddio eu sgiliau daearyddol mewn ffyrdd amrywiol tu hwnt.