Roedd Kingsley Amis yn un o awduron ffuglen mwyaf poblogaidd ac uchaf ei fri'r ugeinfed ganrif. Enillodd ei nofel o 1986, The Old Devils, Wobr Booker.  

Dechreuodd ei yrfa academaidd yn Abertawe, lle bu'n addysgu am 12 mlynedd rhwng 1949 a 1961. Dywedodd yn rheolaidd mai dyma rai o flynyddoedd gorau ei fywyd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Lucky Jim, ym 1954. Bu'n llwyddiant mawr, ac er nad yw'r nofel yn seiliedig ar Brifysgol Abertawe, rhaid bod gweithle Amis wedi cael rhywfaint o ddylanwad ar bortread Amis o fywyd ar gampws ac yn y byd academaidd. Parhaodd De Cymru i fod yn lleoliad blaenllaw ar gyfer ei waith yn y dyfodol, gan gynnwys The Old Devils. Roedd Amis yn adnabyddus am ei ffordd fohemaidd o fyw a'i hoffter o'r ddiod gadarn a phartïon, ond roedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd a diwyd a chanddo enw da ymhlith llawer o fyfyrwyr.   

Llun du a gwyn o Kingsley Amis